Mater - cyfarfodydd
Service Structures: Highways & Infrastructure Service
Cyfarfod: 05/12/2012 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Eitem 4)
Strwythurau Gwasanaeth: Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith
I dderbyn adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Rheolwr
Prosiect Rhanbarthol sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried yr opsiynau sydd ar gael
ar gyfer cydweithredu mewnol ac allanol agosach Priffyrdd a Seilwaith yn dilyn
penderfyniad gan Gabinetau Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy i beidio â bwrw ymlaen â gwasanaeth priffyrdd integredig rhwng y ddwy
sir.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (4/2)
Cofnodion:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, adroddiad
cyfrinachol, a gynhyrchwyd gan y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol ac a gylchredwyd
cyn y cyfarfod, a oedd yn mynegi’r opsiynau a oedd ar gael ar gyfer
cydweithredu yng nghyflenwad gwasanaethau priffyrdd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a
Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Yn dilyn penderfyniadau
Cabinetau CSDd a ChBSC i beidio â bwrw ymlaen â Gwasanaeth Priffyrdd a
Seilwaith cwbl integredig ar draws y ddwy sir, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried
adroddiad dilynol yn amlinellu’r opsiynau ar gyfer cydweithrediad mewnol ac
allanol pellach cyn cyflwyno’r adroddiad i Gabinet y Cyngor ar Ragfyr 18fed.
Yn dilyn craffu manwl ac
esboniad manwl ar opsiynau’r strwythur rheolaeth arfaethedig, ac asesiad o’u
potensial i leihau costau a gwella gwasanaethau, cytunodd y Pwyllgor ei bod yn
briodol cymryd cam yn ôl oddi wrth integreiddiad llawn a chytunodd i gefnogi
datblygiad y strwythur rheolaeth a gymeradwywyd ac a fynegwyd dan Opsiwn 2b.
Fe gydnabu’r Pwyllgor nad oedd ymdrechion i
integreiddio gwasanaethau Priffyrdd a Seilwaith yn y 3 blynedd ddiwethaf wedi
sylweddoli’r manteision a ragwelwyd a bod angen cymryd cam yn ôl o’r lefel yma
o gydweithrediad er mwyn uchafu effeithlonrwydd y gwasanaeth, wrth barhau i
gynnal cysylltiadau cryf a chyfathrebu agos â ChBSC, heb ddiystyru
cydweithrediad agosach yn y dyfodol petai achos busnes cadarn yn cyfiawnhau’r
cwrs gweithredu yma.
PENDERFYNWYD – Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r
argymhelliad i’r Cabinet o ddatblygiad y model ar gyfer cydweithredu gyda
chyflenwi gwasanaethau Priffyrdd a amlinellir dan Opsiwn 2b.
Daeth y cyfarfod i ben am 3:40pm.