Manylion y penderfyniad
Cynnig i dendro ar gyfer cyngor defnyddwyr ac ariannol o 1 Ebrill 2024
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Mae ein contract cyfredol ar gyfer y gwasanaethau hyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024 ac rydym yn cynnig mynd allan i dendr ar gyfer contract newydd, i sicrhau parhad gwasanaeth.of service.
Penderfyniad:
Ar y cynnig i dendro ar gyfer cyngor defnyddwyr ac ariannol o 1 Ebrill 2024, bod swyddogion yn bwrw ymlaen i dendro am y contract hwn.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Rydym yn ceisio cymeradwyaeth
gan ein Haelod Arweiniol i fynd allan i dendr ar gyfer y contract hwn o dan eu
pwerau dirprwyedig. Dyma wasanaeth cyngor
ddefnyddwyr ac ariannol annibynnol, amhleidiol ac am ddim, sydd yn hygyrch i
bawb yn Sir Ddinbych, fe’i dyluniwyd i atal a lleihau y problemau a wynebir gan
ein trigolion mewn perthynas â meysydd megis yr ystod lawn o fudd-daliadau a
hawliau, dyled, cyllidebu, ynni a thanwydd, tai, cyflogaeth, materion
defnyddwyr a theuluol/perthnasoedd.
Hefyd yn gynwysedig yn y contract mae pedwar prosiect llai sydd yn
cyd-fynd sydd ag angen gwasanaeth penodol.
Trwy fynd allan i dendr ffurfiol ar gyfer contract newydd byddwn yn
sicrhau ein bod wedi profi’r farchnad a bod gennym gontract newydd mewn lle ar
gyfer 1 Ebrill 2024 gyda darparwr sy’n gallu darparu’r gwasanaethau pwysig hyn
ar safon uchel.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2023
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2023
Dogfennau Cefnogol: