Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Perfformiad

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

Hysbysodd y Cynghorydd Hugh Irving y Pwyllgor ei fod wedi mynychu cyfarfodydd Bwrdd Prosiect Adeilad y Frenhines yn rheolaidd, ac yn seiliedig ar waith y Bwrdd Prosiect, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cam nesaf y prosiect.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott wrth y Pwyllgor fod y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Tir Glannau Afon wedi gorffen ei waith ac wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yr wythnos flaenorol.  Roedd canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion y Grŵp mewn perthynas â chryfhau perthnasau gwaith a sicrhau sianeli rhannu gwybodaeth a chyfathrebu cadarn rhwng holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd, perchnogion tir glannau afon a’r cyhoedd, wedi cael eu croesawu.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi cefnogi argymhelliad y Grŵp Tasg a Gorffen y dylai Gweithgor o’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r gwaith, barhau i gyfarfod yn flynyddol er mwyn amlygu unrhyw broblemau mawr a wynebwyd, ac i rannu gwybodaeth ar brosiectau mawr a oedd yn cael eu cynllunio.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: derbyn a nodi’r adborth a dderbyniwyd gan gynrychiolwyr yn dilyn eu presenoldeb mewn cyfarfodydd amrywiol ar ran y Pwyllgor.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11:30am

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2022

Dyddiad y penderfyniad: 17/03/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/03/2022 - Pwyllgor Craffu Perfformiad