Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

CYFLWYNO FFIOEDD AR GYFER DARPARU CYNWYSYDDION GWASTRAFF AC AILGYLCHU: PENDERFYNIAD DIRPRWYEDIG AELOD ARWEINIOL

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Cyflwynwyd y cynnig o arbed £40,000 drwy adfer costau llawn y ddarpariaeth biniau olwynion yn ystod y broses o osod cyllideb 2021/22, a byddai hynny’n cael ei gyflawni drwy godi tâl am gynwysyddion gwastraff domestig newydd ac ychwanegol.  Cynigir gweithredu’r newid hwn cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol er mwyn i’r Gwasanaeth gyflawni’r arbedion y cytunwyd arnynt.

Mae Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) yn galluogi awdurdod lleol i ddiffinio’r math o fin y dylid ei ddefnyddio i gyflwyno gwastraff domestig, ac i ofyn i’r preswylydd dalu am y bin.  Nid oes raid i breswylwyr nad oes ganddynt fin ar eu cyfer eu hunain yn unig (h.y. os ydynt yn rhannu cyfleusterau cymunol) dalu am y biniau, ond mae’n rhaid i’r biniau gael eu darparu gan gwmni rheoli’r eiddo, y datblygwr, y landlord neu’r darparwr tai, a gellir adfer y gost hon gan y preswylwyr drwy dâl gwasanaeth.

Bydd pob cynhwysydd gwastraff newydd a ddarperir gan y cyngor fel rhan o gyflwyniad y dull casglu gwastraff newydd yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim.

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cyflwyno’r atodlen codi tâl am gynwysyddion gwastraff (fel y nodir yn Atodiad 1 o’r adroddiad sydd ynghlwm) a’i bod yn cael ei gweithredu ar unwaith. 

 

Bod y Cyngor yn mabwysiadu Polisi Codi Tâl am Finiau newydd (gweler Atodiad 2 i’r adroddiad sydd ynghlwm) a’i fod yn cael ei weithredu ar unwaith.

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Mae’r sefyllfa bresennol, lle nad yw CSDd yn codi tâl am finiau newydd, eisoes yn rhoi pwysau ariannol ar y Cyngor.  Rhagwelir y bydd y pwysau yma'n cynyddu £35,000 y flwyddyn os na fabwysiedir y polisi hwn oherwydd yr ymchwydd yn y galw am gynwysyddion ychwanegol a newydd, wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref a chynhyrchu mwy o wastraff. 

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan.

Dyddiad cyhoeddi: 20/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2021