Manylion y penderfyniad
FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniadau:
Adroddodd y Cynghorydd Brian Blakeley ar ei bresenoldeb
yn y cyfarfod Herio Gwasanaeth ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
ar 23 Gorffennaf 2021 a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion yn ymwneud â
mynwentydd, staffio ac ailfodelu'r Gwasanaeth Gwastraff. Amlygodd y Cynghorydd Meirick Davies y diffyg
ymateb gan y Cyngor ar faterion o fandaliaeth ym Mynwent Coed Bell ym
Mhrestatyn a dywedodd y Cydlynydd Craffu y byddai’n debygol o fod yn fater ar
gyfer Grŵp Ardal Aelodau Prestatyn a Gallt Melyd i’w ystyried, ond cytunwyd
i godi’r mater yn uniongyrchol gyda swyddogion.
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a ddarparwyd ar waith y grwpiau
amrywiol gan gynrychiolwyr y Pwyllgor.
Daeth y cyfarfod
i ben am 12.05pm.
Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau