Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

WILDFLOWER MEADOW PROJECT

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau y swyddogion oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, gan gynnwys y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Swyddog Ecoleg a oedd wedi cynhyrchu adroddiad ar y cyd â'r Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd.  Roedd Dr. Kate Petty, Rheolwr Ymgyrchoedd Ymyl Ffyrdd Plantlife hefyd yn bresennol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Thomas bod yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer yr egwyddor y gall ardaloedd preswyl/trefol fod yn lleoliadau addas ar gyfer dolydd blodau gwyllt a chynigion i wella cyhoeddusrwydd ac ymgysylltiad ar gyfer y prosiect.  Dechreuodd y prosiect fel peilot yn 2020 gyda 21 o safleoedd wedi’u dewis, ac roedd safleoedd pellach wedi eu hychwanegu ac roedd 58 o safleoedd dolydd blodau gwyllt wedi’u rheoli oedd yn cyfrannu i gyfoethogi rhywogaethau.  Roedd y safleoedd yn cael eu rheoli gyda thorri borderi, ni dorrwyd y gwair rhwng Mawrth ac Awst, ac fe dorrwyd y safle cyfan gydag offer torri gwair arbenigol gan alluogi'r dôl i hadu a darparu’r buddion gorau i fywyd gwyllt, gyda phlannu blodau gwyllt ychwanegol os oes angen.  Cafodd y prosiect hefyd ei gefnogi gan statws Cyfeillgar i Wenyn y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y prosiect ac i fynd i'r afael â chwynion/pryderon a dderbyniwyd gan rai preswylwyr ac aelodau oedd yn credu na ddylai'r safleoedd dolydd blodau gwyllt gael eu datblygu i mewn i leoliadau preswyl.  O ganlyniad i hynny, ceisiwyd cefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer y prosiect yn destun strategaeth ymgysylltu mwy cadarn.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor i’r pwyntiau canlynol -

 

·         roedd y prosiect yn elfen bwysig o Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor a fabwysiadwyd yn 2021 a’r gyriant i ddod yn Cyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030 gan gefnogi'r egwyddor o fynd i'r afael â newid hinsawdd

·         roedd y mater penodol o dan ystyriaeth mewn perthynas ag addasrwydd ardaloedd preswyl/trefol fel lleoliadau ar gyfer dolydd blodau gwyllt gyda gwrthwynebiad gan rai preswylwyr o ran nifer fechan o safleoedd, yn seiliedig ar estheteg a cholli man amwynder neu drefol

·         ar ôl ystyried y pryderon hyn, ymatebodd y swyddogion fod (1) dewisiadau estheteg yn oddrychol gyda barn gwahanol, ond roedd yn bwysig nodi nad oedd y prosiect wedi cael ei gyflawni ar gyfer dibenion estheteg, ond er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, felly nid oedd estheteg yn cael ei ystyried fel rheswm i barhau neu stopio'r prosiect, (2) roedd colli man amwynder neu drefol yn cael ei ystyried fel rheswm dilys, ac fe ystyriwyd hyn, ond nid oedd digon o dystiolaeth i gefnogi'r pryderon gyda dim ond dau achos lle gosodd rhieni'r mater nad oedd plant yn gallu chwarae ar y safleoedd hynny.  Ym mwyafrif yr achosion nid oedd gweithgarwch wedi digwydd ar y safle nad oedd posib parhau ei gyflawni ac roedd y swyddogion cynllunio wedi cadarnhau nad oedd newid mewn rheolaeth wedi golygu colli man agored cyhoeddus.  Fodd bynnag ar safleoedd mwy, roedd ardaloedd defnydd amwynder clir wedi cael eu torri er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gael eu defnyddio, megis Parc Violet Grove yn y Rhyl.

·         roedd galwadau i dynnu unrhyw safleoedd mewn ardaloedd preswyl/trefol o'r prosiect yn achosi pryder a byddai'n dinistrio'r coridorau blodau gwyllt cysylltiol sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd; sail y cyllid grant a ddefnyddiwyd ar gyfer yr offer i gynnal y prosiect oedd i sicrhau fod gan bawb fynediad at natur ar eu stepen drws ac felly rhaid i safleoedd fod yn agos i le mae pobl yn byw.

·         wrth ystyried y cwynion mewn cyd-destun, roedd yn bwysig nodi bod cefnogaeth cyffredinol ar gyfer y mwyafrif o’r safleoedd gyda dim ond llond llaw o’r 58 safle yn destun cwyn, ac hefyd roedd cefnogaeth gan drigolion lleol mewn ardaloedd lle dderbyniwyd cwynion.  

Er fod y mwyafrif o gwynion wedi cael ei liniaru drwy ddeialog dilynol gyda thrigolion, roedd rhai ardaloedd lle roedd pobl yn parhau i fod yn anhapus.  Roedd ymateb i gwynion wedi cymryd llawr o amser a gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei gefnogaeth ar gyfer parhau gyda’r prosiect er mwyn ei wneud yn haws i ymateb i gwynion yn y dyfodol

·         ymgynghorwyd ar yr egwyddor o ddatblygu dolydd blodau gwyllt mewn ardaloedd trefol/preswyl yn 2020 a chafodd ei gefnogi’r unfrydol gan yr Aelodau pan fabwysiadodd y Cyngor y Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021

·         roedd y prosiect wedi bod yn hynod o lwyddiannus er ei fod yn y camau cynnar, roedd mwyafrif y safleoedd wedi dyblu neu dreblu’r nifer o rywogaethau a gofnodwyd ac mae rhywogaethau prin hefyd wedi cael eu cofnodi

·         cydnabu y byddai cyfathrebu ar y prosiect wedi gallu bod yn well ac roedd rhai cwynion wedi cael eu derbyn o ganlyniad i hyn.  

O ganlyniad i hyn, roedd cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu newydd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y prosiect (atodiad 4 yr adroddiad) a fydd yn lleihau’r nifer o gwynion yn y dyfodol.

 

Yn ystod trafodaeth hir a manwl, cymerodd yr aelodau’r cyfle i drafod agweddau amrywiol o’r prosiect dolydd blodau gwyllt gyda’r swyddogion.  Er fod yr holl aelodau yn cefnogi nodau’r prosiect yn llawn ac yn ymrwymedig i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd, codwyd pryderon a sylwadau o ran nifer o elfennau yn ymwneud â'r prosiect.  Roedd y prif faterion yn ymwneud â’r cyfathrebu dechreuol ar y prosiect ac fe geisiwyd sicrwydd o ran ymgysylltiad ystyrlon gydag aelodau, preswylwyr a chymunedau yn y dyfodol; rheolaeth o chwyn, yn arbennig llysiau'r gingroen, esgyll a dail tafol o fewn safleoedd blodau gwyllt; gweithio’n agosach gydag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i wella rheoli glaswelltir o fewn y sir, a’r angen i ystyried datrysiadau cyfaddawdu mewn ardaloedd lle mae pryderon neu wrthwynebiad i’r safleoedd gan gynnwys y posibilrwydd i wella’r ymddangosiad gweledol trwy gyflwyno planhigion plwg.

 

Fe wnaeth yr aelodau sôn am effaith y safleoedd dolydd blodau gwyllt o fewn eu wardiau unigol gydag amrywiaeth o safbwyntiau ar draws y safleoedd ac fe gydnabu bod y mwyafrif o'r safleoedd wedi cael eu cefnogi gan y gymuned.  Fodd bynnag, roedd nifer o safleoedd lle wynebwyd gwrthwynebiad, gyda rhai wedi’u datrys yn llwyddiannus drwy ddatrysiadau cyfaddawdu, ond roedd lleiafrif yn parhau i fynd rhagddynt.  Amlygodd y Cynghorydd Ann Davies yr effaith niweidiol ar breswylwyr yn Ffordd Nant a Nant Close, Rhuddlan yn sgil y dôl blodau gwyllt a oedd wedi arwain at gyflwyno deiseb i'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2021, ac fe anogodd y swyddogion i ailystyried y safle.  Ychwanegodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones ei phryderon o ran gosod safleoedd dolydd blodau gwyllt yn erbyn dymuniadau preswylwyr, yn arbennig y defnydd o bocedi bychain o dir o fewn cymunedau bychain ar gyfer y pwrpas hwnnw.

 

Ymatebodd y swyddogion i sylwadau, pryderon a chwestiynau'r aelodau fel a ganlyn –

 

·         roedd y pryderon a godwyd o ran ymgynghoriad dechreuol ar y prosiect wedi cael ei dderbyn a rhoddwyd sicrwydd o ran ymgysylltiad ystyrlon wrth fynd ymlaen.  

Roedd cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr wedi cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod aelodau yn ymwybodol o’r safleoedd posibl yn ystod y camau cynnar ac i drafodaeth ar eu haddasrwydd gymryd lle cyn unrhyw ymgysylltiad cymunedol ehangach; byddai unrhyw faterion neu bryderon a godir yn cael eu hystyried yn ofalus. Cytunwyd i ofyn i’r aelodau am awgrymiadau ar gyfer safleoedd addas posibl yn eu wardiau fel rhan o gam nesaf y prosiect

·         amlygwyd cymhlethdodau llysiau'r gingroen a oedd yn beillydd pwysig ond cydnabu'r pryderon am ei effaith ar dda byw.  

Roedd taflen ffeithiau ar y mater yn cael ei baratoi ar gyfer ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.  Nid oedd dull rheoli’r Cyngor yn annog twf llysiau'r gingroen, gall nifer o fesurau rheoli waethygu’r broblem, ac roedd diffyg capasiti i ddelio â’r mater ar draws holl safleoedd.  Felly roedd angen safbwynt cytbwys i reoli llysiau'r gingroen ar sail achosion unigol er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chodau ymarfer, Deddf Chwyn 1959 ac ati, a bydd problemau difrifol yn cael eu taclo.

·         nid oedd swyddogion yn ymwybodol o’r dull a gymerwyd gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i reoli chwyn, ond cytunwyd i gysylltu yn uniongyrchol â nhw  er mwyn rhoi ymateb i aelodau

·         rhoddwyd manylion ar gyfranogiad ysgolion ar draws y sir o fewn y prosiect, gan gynnwys y gystadleuaeth i ddylunio logo a darparu a phlannu planhigion blodau gwyllt, gan greu ardaloedd blodau gwyllt ar dir ysgol.  

Roedd cynlluniau i ymgysylltu ymhellach gyda phlant ysgol a’u cynnwys nhw i blannu safleoedd yn eu hardal leol er mwyn dysgu am y prosiect.

·         nodwyd y sylwadau gan y Cynghorydd Graham Timms fod angen i’r cyfeiriadau yn yr Asesiad o Effaith ar Les o ran gwella atyniad yr ardal a gwella'r effaith weledol gael ei leihau o ystyried fod dewisiadau estheteg yn oddrychol, ac er mwyn sicrhau bod y disgrifiadau gweledol o ddolydd blodau gwyllt dros amser a gynhwyswyd yn yr adroddiad yn rhoi cynrychiolaeth gywir er mwyn sicrhau disgwyliadau realistig.

·         eglurwyd fod arwyddion cyffredinol wedi cael eu rhoi ar y safleoedd, gan gynnwys y rhai yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ond cytunwyd i drafod y mater ymhellach gyda gweithredwyr yn yr AHNE er mwyn sicrhau fod yr arwyddion yn cyd-fynd â'r ardal honno.

·         crybwyllwyd y defnydd o gylchfannau fel safleoedd posibl ond roedd angen ystyried materion diogelwch ffyrdd fel rhan o’r broses.  

Roedd rhai cylchfannau y cyfeiriwyd atynt yn Sir y Fflint wedi cael eu defnyddio ar gyfer dolydd darluniadol nad oedd Sir Ddinbych yn edrych i wneud ar hyn o bryd gan nad oeddent yn darparu yr un buddion bioamrywiaeth ac angen mwy o reolaeth. 

·         dywedwyd yn aml dim ond pocedi bychain o dir oedd ar gael i'w ddefnyddio mewn ardaloedd preswyl mewn perthynas â’r prosiect.

·         ni fyddai’r swyddogion yn cefnogi gwahardd safleoedd gan gynghorion neu gymunedau a fyddai’n arwain at golli safleoedd cyfredol ac yn y dyfodol a buddion y prosiect; er y bydd gwrthwynebiad mewn rhai safleoedd, roedd cefnogaeth ar eu cyfer hefyd

·         byddai’r math o reoli i greu mwy o ofod ar gyfer blodau gwyllt yn sicrhau bod ymddangosiad gweledol y safleoedd yn gwella’n naturiol dros amser gyda chynnydd mewn rhywogaethau blodau gwyllt, ond mewn safleoedd mwy ynysig neu heb y rhywogaethau hynny’n bresennol, roedd gwaith yn cael ei gyflawni trwy’r Ganolfan Sgiliau Coetir i gyflwyno planhigion plwg sydd wedi tyfu'n lleol i'r safleoedd hynny.  

Roedd gwaith pellach o ran hynny hefyd wedi'i gynllunio i alluogi mwy o blanhigion i gael eu hychwanegu i'r safleoedd ac o fewn cymunedau, yn bennaf i gynyddu'r gwerth bioamrywiaeth a chreu cynefin ar gyfer peilliwyr a fyddai hefyd yn gwella ymddangosiad gweledol

·         mewn ymateb i bryderon bod y safle dôl blodau gwyllt ym Maes Bedwen, Rhuddlan yn hynod o flêr, cytunodd y swyddogion i edrych i mewn i’r mater.

·         o ran y gwrthwynebiad i’r dôl blodau gwyllt yn Ffordd Nant a Nant Close, Rhuddlan, roedd swyddogion yn cydymdeimlo gyda safbwyntiau'r preswylwyr ond fe bwysleisiwyd beth oedd pwrpas y prosiect sef i ddarparu buddion amgylcheddol i fynd i'r afael â newid hinsawdd a oedd yn hynod o bwysig.  

Darparwyd cefndir i sefyllfa’r safle yn Ffordd Nant/Nant Close, ynghyd â’r ymdrechion i ymgysylltu â phreswylwyr.  Nid oedd y swyddogion yn ystyried bod safleoedd o’r fath yn edrych yn annymunol gan gyfeirio at y cyfoeth o gefnogaeth cyhoeddus ar gyfer y prosiect ac ymddangosiad gweledol y safleoedd.  Fodd bynnag, y bwriad oedd cyflwyno planhigion plwg ar y safle i helpu i fynd i’r afael â phryderon estheteg.  Roedd rhaid derbyn na fyddai cytundeb 100% ar y mater yn cael ei gyflawni.

·         rhoddwyd sicrwydd bod trafodaethau yn digwydd gydag unigolion o ran y materion a godwyd ac roedd y mwyafrif o’r pryderon wedi cael eu lleddfu trwy ddeialog dilynol a/neu ddatrysiadau cyfaddawdu lle bo'n bosibl.  

Yn gyffredinol, gellir ond ystyried yr opsiwn cyfaddawdu ar gyfer safleoedd mwy ac roedd cyfaddawdu wedi digwydd ar rai safleoedd.  Fodd bynnag, os yw safle yn rhy fach byddai hynny’n aneffeithiol ac ni fyddai unrhyw werth datblygu

·         roedd safleoedd eraill yn y prosiect a oedd yn destun cwynion a phryderon gan breswylwyr o ran addasrwydd eu lleoliad, ond sydd bellach wedi cael eu derbyn gan y gymuned, gyda rhai o'r canlyniadau gorau gyda chofnodion o rywogaethau prin. Felly ni fyddai tynnu’r safleoedd hyn pan dderbynnir cwynion y peth iawn i wneud, ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i liniaru pryderon ac ymgysylltu â chymunedau yn y sefyllfaoedd hynny.

·         cadarnhawyd bod y safleoedd dolydd blodau gwyllt wedi cael eu mapio a’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

·         cytunodd y swyddogion i ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Martyn Holland tu allan i’r cyfarfod o ran ei adroddiad ar bryderon gwelededd o ran y safle yn Llanferres ac hefyd i’r Cynghorydd Glenn Swingler o ran y posibilrwydd  i’r Cyngor dynnu sbwriel o’r tir sydd wedi gordyfu tu ôl i Barc Manwerthu Dinbych er mwyn annog y planhigion i dyfu ymhellach

·         cadarnhawyd fod chwareli cyfredol y sir yn ffurfio rhan o’r adolygiad o holl laswelltir er mwyn ystyried sut allai gyfrannu tuag at y rhaglen newid hinsawdd a newid ecolegol a chytunodd y Rheolwr Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol i gysylltu â’r Cynghorydd Martyn Holland yn uniongyrchol tu allan i’r cyfarfod o ran y cyfleoedd posibl ar gyfer hen chwareli mewn perchnogaeth preifat yn ei ward.

 

Ar y pwynt hwn, gwahoddodd y Cadeirydd Dr.Kate Petty o Plantlife i annerch yr aelodau.

 

Eglurodd Dr. Petty fod Plantlife wedi bod yn rhedeg yr ymgyrch am oddeutu deg mlynedd er mwyn cadw blodau gwyllt ar ochr ffyrdd a darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau.  Roedd hi'n credu fod prosiect dolydd blodau gwyllt y Cyngor yn un o'r prosiectau blodau gwyllt mwyaf blaenllaw yn y DU, ond cydnabu bod heriau hefyd yn wynebu’r prosiect.  O ran rheoli’r glaswelltir mewn ardaloedd preswyl/trefol, gallai tyfiant byr llawn o flodau gwyllt grawn isel ei greu i ddarparu cyfaddawd mewn rhai ardaloedd.  Nid oedd y dull tyfiant byr cyfeillgar i fywyd gwyllt yn addas ymhob ardal, a byddai'r dolydd blodau gwyllt hir yn darparu mwy o fuddion o ran adfer a chadw blodau gwyllt.  Er fod y dolydd darluniadol yn Sir y Fflint yn cymryd eu lle, ar gyfer yr hyn roedd Sir Ddinbych eisiau ei gyflawni o ran buddion amgylcheddol, byddai’r dull a gymerir yn helpu i gadw fflora unigryw yr ardal a chefnogi'r cymeriad naturiol lleol.  Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad a’r arferion ymgysylltu yn y cynghorau eraill a all fod yn ddefnyddiol. Wrth gloi, cynigodd Dr. Petty gymorth Plantlife i’r prosiect.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau pellach o ran y ffyrdd gwahanol o reoli’r glaswelltir, gan gadarnhau fod lleihau torri uchder yn opsiwn ac yn ddatrysiad cyfaddawdu a fydd yn cael ei drafod ymhellach gyda Plantlife wrth i’r prosiect ddatblygu. Roedd y dull cyfredol i reoli’r safleoedd wedi cael ei ddewis er mwyn cyflawni fwy o effaith a darparu'r buddion gorau; roedd materion gweithredol hefyd o ran lleihau uchder y dolydd a goblygiadau ar adnoddau a oedd angen eu hystyried.

 

Daeth y Cadeirydd a’r drafodaeth i ben ac fel amlygodd nifer o’r materion a godwyd gan yr aelodau ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor wrth ffurfio eu penderfyniadau.  Ar ôl trafodaeth olaf ar y penderfyniadau -

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

 (a)      cadarnhau ei gefnogaeth i’r egwyddor fod ardaloedd trefol/preswyl yn gallu bod yn llefydd priodol ar gyfer dolydd blodau gwyllt;

 

 (b)      Ei gwneud yn ofynnol i swyddogion wella ymgysylltiad a chyhoeddusrwydd gydag aelodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a chymunedau mewn perthynas â’r prosiect yn eu hardaloedd a’u datblygiad wrth fynd ymlaen;

 

 (c)      bod rhywogaethau o ’chwyn niweidiol ac andwyol’, megis llysiau'r gingroen, dail tafol ac esgyll yn cael eu rheoli yn fwy effeithiol o fewn safleoedd dolydd blodau gwyllt;

 (d)      Gwneud cais i swyddogion gysylltu a gweithio gyda chydweithwyr o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gyda’r bwriad o sicrhau eu bod oll yn rheoli eu llain las ac ardaloedd blodau gwyllt mewn modd tebyg, er mwyn cyd-fynd â dulliau ei gilydd a chefnogi bioamrywiaeth ac iechyd ecolegol yr ardal wrth ddiogelu iechyd a diogelwch defnyddwyr y ffordd;

 (e)      Gwneud cais am adroddiad diweddaru ar y cynnydd a wneir i ddarparu a datblygu’r prosiect Dolydd Blodau Gwyllt a’i gyflwyno i’r Pwyllgor o fewn 12 mis, a

 

 (f)        Chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les yn Atodiad 1 yr adroddiad fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cytunwyd yn unfrydol ar yr holl awgrymiadau uchod ar wahân i argymhelliad (c) a gafodd ei gymeradwyo gyda phenderfyniad mwyafrifol.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau

Dogfennau Cefnogol: