Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

AIL ADOLYGIAD O'R DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL: DATGANIAD CYDWEITHIO IS-RANBARTHOL

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Bu i Gyngor Sir Ddinbych (CSDd ) gefnogi Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh 2) ar 26 Ionawr 2021. Mae DTRh 2 yn rhagweld y galw am agregau yn y dyfodol er mwyn i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) allu cynllunio datblygiad mwynau mewn modd rheoledig a chymesur. Mae’n darparu argymhellion strategol i bob ACLl o ran eu dosraniadau, ac yn dynodi tebygolrwydd unrhyw ddyraniadau newydd allai fod angen eu gwneud yn y CDLl nesaf, er mwyn diwallu’r galw a ragwelir yn y dyfodol drwy gydol cyfnod perthnasol y cynllun.

 

Er diben cynllunio mwynau’n strategol, mae DTRh 2 yn nodi set o is-ranbarthau yng Nghymru sydd wedi’u seilio ar nifer o ffactorau, megis math o fwynau, patrymau cyflenwi, symud cyn lleied ag sy’n bosib ar yr agregau neu feysydd marchnad neilltuol. Mae Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam yn llunio is-ranbarth ‘Gogledd Ddwyrain Cymru’, ac mae Siroedd Conwy, Gwynedd, Ynys Môr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’u grwpio fel is-ranbarth ‘Gogledd Orllewin Cymru’.

 

Mae DTRh 2, gweler paragraff 1.27, yn cyflwyno’r gofyniad ar bob ACLl ym mhob is-ranbarth i baratoi Datganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol (DGIS), sydd nid yn unig yn sicrhau bod y dosraniadau isranbarthol cyffredinol, fel y’u nodir yn y ddogfen ar gyfer pob sir gyfansoddol, yn cael eu bodloni, ond eu bod hefyd yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth hanfodol i ddangos y bydd y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd (neu sydd ar ddod) yn cyflenwi’r angen a aseswyd yn wrthrychol am fwynau dros gyfnod y cynllun. Bydd unrhyw Ddatganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol yn ystyriaeth gynllunio faterol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

Penderfyniad:

Mae’r Aelodau’n cefnogi cydweithio rhwng awdurdodau mewn perthynas â chyflenwi mwynau agregau yn is-ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru, drwy gymeradwyo’r Datganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol (DGIR).

 

Rhoddir pwerau dirprwyedig i’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel mewn perthynas â diwygiadau golygyddol, h.y. ansylweddol, i’r DGIR DRAFFT pe bai’r angen yn codi o ganlyniad i argymhellion a wneir gan Sir y Fflint neu Wrecsam ar ôl cwblhau’r adroddiad hwn.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Diben yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth gefndirol i’r Aelodau am baratoad y DGIS DRAFFT, a cheisio eu cefnogaeth ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau ar sail y ddogfen hon

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/04/2021

Dyddiad y penderfyniad: 22/04/2021

Dogfennau Cefnogol: