Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

TREFNIADAU DERBYN I YSGOLION AR GYFER 2022-2023

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Mae'n ofynnol i'r holl Awdurdodau Derbyn bennu eu trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion yn eu hardal.  Cyngor Sir Ddinbych yw Awdurdod Derbyn yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych.  Mae’r trefniadau derbyn yn cael ei pennu ar sail flynyddol, a rhaid eu cwblhau erbyn 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu.  Y flwyddyn benderfynu yw’r flwyddyn academaidd sy'n dechrau 2 flynedd cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol ynddi. 

 

Dechreuodd y flwyddyn benderfynu ar 1 Medi 2019 ar gyfer trefniadau derbyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2022-2023.

 

Ar gyfer derbyn ym mis Medi 2022, rhaid pennu’r trefniadau erbyn 15 Ebrill 2021.  Mae'r trefniadau hyn yn debyg iawn i rai'r flwyddyn flaenorol heb unrhyw newidiadau mawr ar wahân i'r dyddiadau angenrheidiol.

 

Penderfyniad:

Cofnodi’r penderfyniad penodol a wnaed gan yr Aelod Arweiniol yn unol â’r argymhelliad yn yr adroddiad; penderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych, ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Mae angen penderfynu ar drefniadau derbyniadau ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych, ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-2023.

 

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/04/2021

Dyddiad y penderfyniad: 01/04/2021

Dogfennau Cefnogol: