Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniad:

Dyma’r Cadeirydd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor fod ail gais galw i mewn am benderfyniad gan y Cabinet wedi’i dderbyn ar ôl cyhoeddi rhaglen a phapurau ar gyfer y cyfarfod presennol.  Gyda’r bwriad o hwyluso’r ail gais am alw i mewn o fewn yr amserlen wedi'i nodi yn Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor cytunwyd i'r mater i gael ei drafod yn y cyfarfod presennol fel eitem fusnes brys.

 

O ganlyniad mae papurau atodol yn berthnasol i'r cais a phenderfyniad y Cabinet ar 22 Medi 2020 i gael gwared ar dir cyfagos i Ysgol Pendref, Dinbych wedi cael ei gyhoeddi ar 1 Hydref 2020 ac yn cael ei ystyried o dan eitem busnes 5 yn y cyfarfod presennol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 07/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau