Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Rhaglen Waith Archwilio

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Perfformiad

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith.  

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod gohirio cyflwyno adroddiad cynnydd Ysgol Crist y Gair o raglen fusnes y cyfarfod hwn i gyfarfod mis Tachwedd wedi golygu bod gormod o eitemau i’w trafod ar raglen fusnes y cyfarfod hwnnw i roi digon o amser i bob pwnc. 

 

Gan fod rhai o’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd angen eu trafod ar frys, awgrymodd yr aelodau y dylid cynnal sesiwn fore a phrynhawn, neu ddau gyfarfod ar wahân, i drafod y busnes angenrheidiol. Fodd bynnag, dywedodd y swyddogion y byddai pwysau ar amserlen cyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ac adnoddau staffio i gefnogi sesiynau/cyfarfodydd ychwanegol yn ei gwneud yn anodd iawn i drefnu a chefnogi cynnal dau gyfarfod/dwy sesiwn yn yr un mis. 

 

Awgrymwyd felly y dylid holi Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i weld a allai’r pwyllgor hwnnw gymryd y gwaith o fonitro Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd y Cyngor, gan fod yr aelodau’n teimlo bod y Strategaeth yn cyd-fynd yn well â chylch gwaith y Pwyllgor Craffu Cymunedau na’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.  Os bydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cytuno i wneud hyn, byddai’n golygu bod llwyth gwaith y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn haws ei reoli ar gyfer gweddill y flwyddyn galendr. Cytunodd y Cydlynydd Craffu i holi ar ran y Pwyllgor.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 16 Medi ac felly dylid cyflwyno unrhyw geisiadau am archwilio eitemau i’r Cydlynydd Craffu ar y ffurflen sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad mewn da bryd cyn y cyfarfod hwnnw. Roedd Atodiad 3 yn cynnwys Rhaglen Waith y Cabinet er gwybodaeth i aelodau ac roedd Atodiad 4 yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a wnaed hyd yma ar argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfod blaenorol.  

 

Felly:

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i) er mwyn lliniaru’r pwysau ar amser a Rhaglen Waith y Pwyllgor, cyflwyno cais i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau i ystyried yr adroddiad cynnydd ar Gynllun Gweithredu Strategaeth Tai Digartrefedd Sir Ddinbych; a

(ii) chadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad

Dogfennau Cefnogol: