Manylion y penderfyniad
DRAFT DIRECTOR OF SOCIAL SERVICES ANNUAL REPORT 2023/24
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Perfformiad
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(EH) yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn crynhoi’r cynnydd sylweddol
yn yr angen am wasanaethau gofal cymdeithasol a phroblemau recriwtio a chadw yn
y sector, felly roedd y cynnydd wedi bod yn arafach ac roedd y perfformiad wedi
dirywio yn erbyn y dangosyddion allweddol oherwydd y pwysau. Byddai’r pwyslais
yn y dyfodol ar y rhaglen drawsnewid.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg (NS) ei fod yn ofyniad statudol i lunio’r adroddiad a
bod ei fformat a’i gynnwys yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, felly roedd
cyfyngiadau o ran faint y gallai Cyngor Sir Ddinbych addasu’r adroddiad. Fodd bynnag, byddai fformat newydd cyn bo hir
gan Lywodraeth Cymru.
Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg (NS) i’r adran, partneriaid a gofalwyr anffurfiol am eu
gwaith caled parhaus. Roedd y tîm yn parhau i weithredu fel gwasanaeth cyfunol
gydag Addysg a Gofal Cymdeithasol, ac roedd ganddo benaethiaid gwasanaeth ar y
cyd ynghyd â chyllideb a chynllun gwasanaeth ar y cyd.
Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw
gwestiynau.
Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion:
- Bod recriwtio a
chadw yn her drwy’r adroddiad cyfan, yn enwedig mewn Gwasanaethau Plant.
Nid oedd yr anawsterau a wynebir yma yn newydd i’r cyfnod adrodd hwn,
roedd craffu wedi cael gwybod am y mater sawl tro o’r blaen. Roedd yr
adran wedi gwneud gwaith penodol pellach, gan edrych ar y rhesymau a
roddwyd mewn cyfweliadau gadael, datblygu’r staff presennol, hyrwyddo’r
cynnig gweithio'n hyblyg yn barhaus a lobïo’n genedlaethol am gynnydd mewn cyflogau i’r
sector. Fodd bynnag, roedd hon yn broblem genedlaethol, nid oedd digon o
staff Gwaith Cymdeithasol erbyn hyn ac felly nid oedd digon o weithwyr
newydd gymhwyso’n ymuno â’r proffesiwn. Felly hefyd Iechyd Meddwl, roedd
prinder cenedlaethol o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth. Roedd Sir
Ddinbych yn edrych ar strwythur presennol y tîm ac yn dyrannu gwaith i
ryddhau Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy i ganolbwyntio ar y gwaith yr
oedd yn ofynnol iddynt ei wneud yn statudol.
- Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ei bod hi a
chyd aelodau Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn
lobïo
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Gymdeithas Llywodraeth
Leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac eraill yn barhaus am well
cyflog i weithwyr yn y sector gofal, yn cynnwys yr un telerau ac amodau â
gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
- Roedd yr adroddiad
yn feichus, ac roedd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a
Digartrefedd (AL) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y fformat newydd
ar gyfer adroddiadau blynyddol yn y dyfodol, ond roedd yn ansicr faint o’u
mewnbwn fyddai’n cael ei gynnwys. Byddai’r fformat newydd yn well
gobeithio, byddai’n cynnwys adran ar berfformiad gyda data a byddai’n
gwahanu gwybodaeth am Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant yn
gliriach. Croesawyd yr Astudiaethau Achos yn yr adroddiad, oedd yn rhoi darlun
defnyddiol o ba mor gymhleth oedd darparu’r mathau cywir o wasanaethau er
mwyn bod yn addas i unigolion.
- Trafodwyd
cynhwysiant digidol a phwysigrwydd estyn allan i breswylwyr hŷn a’r
rhai oedd wedi eu heithrio’n ddigidol. Roedd gan y cynllun ‘Heneiddio’n
Dda yn Sir Ddinbych’ rôl allweddol yn hyn, yn enwedig yn ardaloedd gwledig
Sir Ddinbych. Roedd ‘Hyder Digidol’ yn gynllun arall oedd â’r nod o
feithrin hyder digidol, wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Anghenion
Cymhleth, roedd y pwysau’n dal i gynyddu, oedran cyfartalog y boblogaeth
hŷn oedd yn gofyn am ofal preswyl bellach oedd 82 – 83 oed. Roeddent
yn defnyddio’r gwasanaethau hyn pan oedd teulu’n methu â darparu’r
gefnogaeth angenrheidiol mwyach, felly roedd ganddynt fwy o anghenion pan
oeddent yn gofyn am ofal y tro cyntaf. Ers y pandemig, roedd cynnydd wedi
bod mewn iechyd meddwl cymhleth ac iechyd meddwl ymddygiadol mewn
Gwasanaethau Plant. Roedd llawer o waith ar y gweill gyda phartneriaid,
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Teuluoedd
Integredig Lleol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, yr Heddlu ac ati, yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a
chefnogi teuluoedd yn gynt. Cynhaliwyd cyfarfodydd Tîm Amlasiantaeth
rheolaidd gydag ysgolion, defnyddiwyd y dull Tîm o Amgylch y Teulu a
rhannwyd llawer o wybodaeth a data i gefnogi cydweithio effeithiol.
- Bu dirywiad yn
y perfformiad oherwydd cymhlethdodau’r anghenion oedd gan unigolion, oedd
yn golygu bod asesiadau’n cymryd mwy o amser, fodd bynnag, roedd ar y
gwasanaeth eisiau i asesiadau o ansawdd gael eu cynnal, felly roeddent yn
cymryd mwy o amser. Roedd recriwtio
a chadw yn ffactor arall oedd yn cyfrannu at y dirywiad mewn perfformiad,
ynghyd â system newydd o gofnodi data, oedd yn golygu ei bod yn anodd
cymharu o un flwyddyn i’r llall.
- Dangosodd yr
adroddiad mai dim ond chwe chwyn a gafwyd yn erbyn y Gwasanaeth, oedd yn
ymddangos yn nifer isel iawn. Roedd
y drefn gwyno yn broses statudol a ddiffiniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd
gan Adran Gwynion Cyngor Sir Ddinbych enw da iawn ac roedd nifer o
awdurdodau eraill wedi gofyn iddynt am gyngor i ymdrin â chwynion yn
effeithiol. Roedd cyfradd ymateb yr adran i gwynion yn effeithlon
iawn.
- Roedd
digartrefedd yn rhan o gylch gwaith y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i
Oedolion a Digartrefedd (AL), fodd bynnag, nid oedd angen cynnwys
gwybodaeth am ddigartrefedd yn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn yr adran ar gyllid, nodwyd er gwybodaeth bod
£4 miliwn o gyllideb £59 miliwn y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer darparu
gwasanaethau digartrefedd, ariannwyd gweddill y Gwasanaethau Digartrefedd
drwy arian grant. Roedd pobl ifanc
digartref rhwng 16-17 oed yn rhan o Gyllideb y Gwasanaethau Plant felly
nid oeddent yn cael eu cynnwys yn y ffigwr hwn.
- Roedd pontio o
Wasanaethau Plant i Wasanaethau Oedolion i gyd yn seiliedig ar gynllunio
ymlaen llaw ac ymyrraeth gynnar. Ar gyfer plant ag anableddau, roedd gan
Gyngor Sir Ddinbych broses ragorol o gynllunio ymlaen llaw. Fodd bynnag,
ar gyfer Plant â phroblemau Iechyd Meddwl oedd yn symud i wasanaethau
Iechyd Meddwl Oedolion, roedd yr adran yn profi pwysau. Roedd y rhai oedd
yn gadael gofal, ac oedd yn dal mewn addysg yn aros gyda’r gwasanaeth nes
eu bod yn 21 i 25 oed. Roedd gwaith pontio pwrpasol, gweithio gyda
digartrefedd, symud ymlaen i dai ac roedd yr hyn oedd ar gael yn gallu bod
yn anodd, felly roedd y Gwasanaeth yn edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd o
ddatblygu cefnogaeth yn y cartref. Ar gyfer pobl ifanc 18 oed mewn gofal
preswyl, roedd pontio i lawr i lety â chymorth. Ar gyfer gofal preswyl a
maethu, roedd rhaglen o’r enw “pan fyddaf yn barod”, oedd yn golygu nad
oedd raid iddynt adael dim ond oherwydd eu bod yn 18 oed. Roedd llawer o
gynllunio llwybrau, rheoli arian a sgiliau cyllideb yn agweddau allweddol
i’r grŵp oedran hwn.
- Y rhaglen Nid
er Elw - roedd Pennaeth Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych yn Gadeirydd bwrdd
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant
Cymru Gyfan ar gyfer y rhaglen benodol hon. Roedd llawer o gwestiynau heb
eu hateb am y Bil hwn a gofynnwyd nifer o gwestiynau i Lywodraeth Cymru
amdano. Er bod bwriad y rhaglen ‘Nid er Elw’ yn glodwiw, mewn gwirionedd,
byddai’n anodd iawn, ac nid oedd yn glir byth ble byddai eithriadau.
- Roedd micro
ddarparwyr wedi llenwi llawer o fylchau mewn darpariaeth gofal yn y
cartref yn y sir, fe’i hystyrid yn gynnig gwerthfawr gan Gyngor Sir
Ddinbych gan fod y gwasanaeth a ddarparwyd ganddynt yn golygu nad oedd ar
bobl angen gwasanaethau statudol, drwy eu helpu i gadw eu hannibyniaeth.
Gallai pob micro ddarparwr ddarparu cefnogaeth a gofal i hyd at bedwar o
bobl. Roedd micro ddarparwyr yn darparu gofal a chefnogaeth i tua 200 o
breswylwyr i gyd, roedd rhai yn ei ariannu eu hunain. Roedd Sir Ddinbych
yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi micro ddarparwyr, fodd bynnag, endidau
preifat, unigolion hunangyflogedig oeddent yn y bôn.
- Ariennir y Tîm
Adsefydlu Byd-eang gan y Swyddfa Gartref drwy gyllid ar gyfer Rhaglenni
Adsefydlu penodol i ddinasyddion o Affganistan, Syria a Wcráin. Roedd
cefnogaeth ariannol i ddinasyddion Wcráin yn prinhau, ond roedd llawer o
deuluoedd o Wcráin yn dal i fyw gyda theuluoedd ar hyd a lled y sir ac
roeddent yn dal i gael cyllid gan y Swyddfa Gartref. Roedd Canolbwynt
Croeso Wcráin wedi cau erbyn hyn, ac roedd y teuluoedd i gyd yn byw mewn
cartrefi mwy parhaol. Roedd ychydig o deuluoedd o Affganistan a Syria yn
dod i Sir Ddinbych bob blwyddyn, ond roedd y niferoedd yn fach iawn. O ran
Ceiswyr Lloches, yn 2023/24 cafodd pob awdurdod lleol ddyraniad o dai y
gellir eu defnyddio i letya ceiswyr lloches. Daeth y darparwr dros y
Swyddfa Gartref at y Cyngor gydag eiddo roeddent yn eu cynnig y dylid eu
defnyddio ar gyfer hyn a sut y byddent yn cael eu gwella i gyrraedd y
safon. Roedd y cyllid ar eu cyfer yn swm untro fesul gwely. Ar hyn o bryd,
roedd tri neu bedwar teulu wedi’u lletya yn Sir Ddinbych ac roedd y Tîm Adsefydlu
Byd-eang yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Adran Gwarchod y
Cyhoedd Sir Ddinbych o ran Ceiswyr Lloches. Ni ddefnyddir unrhyw gyllid
gofal ar gyfer y rhaglenni adsefydlu.
- Yn y dyfodol
agos, bydd y sefyllfa’n heriol, nid oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn
ddiogel rhag gorfod gwneud arbedion sylweddol yn y gyllideb, byddai
perfformiad yn dirywio mewn rhai meysydd, mae’n debyg y byddai angen i’r
cynnig cymorth fod yn llai, fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i gynnal y gwasanaeth
i’r rhai mwyaf diamddiffyn.
Ar ddiwedd trafodaeth fanwl, diolchodd y Pwyllgor i’r
Cyfarwyddwr am adroddiad cynhwysfawr oedd yn rhoi cyfrif didwyll o berfformiad
y Gwasanaeth ynghyd â’r pwysau oedd arno i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i
breswylwyr y Sir ar adeg o gynni ariannol.
Felly:
Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod –
(i) dderbyn yr adroddiad a’i gymeradwyo fel cyfrif clir o
berfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol y Cyngor yn 2023/24; a
(ii) chydnabod y pwysau ariannol ac ar adnoddau yr oedd
disgwyl i Wasanaethau weithio ynddynt ar hyn o bryd.
Gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl am 11.20am ac ailymgynnull
am 11.30am
Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad
Dogfennau Cefnogol: