Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Cynnig i dendro ar gyfer cyngor defnyddwyr ac ariannol o 1 Ebrill 2024

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Mae ein contract cyfredol ar gyfer y gwasanaethau hyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024 ac rydym yn cynnig mynd allan i dendr ar gyfer contract newydd, i sicrhau parhad gwasanaeth.of service.

Penderfyniad:

Ar y cynnig i dendro ar gyfer cyngor defnyddwyr ac ariannol o 1 Ebrill 2024, bod swyddogion yn bwrw ymlaen i dendro am y contract hwn. 

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Rydym yn ceisio cymeradwyaeth gan ein Haelod Arweiniol i fynd allan i dendr ar gyfer y contract hwn o dan eu pwerau dirprwyedig.  Dyma wasanaeth cyngor ddefnyddwyr ac ariannol annibynnol, amhleidiol ac am ddim, sydd yn hygyrch i bawb yn Sir Ddinbych, fe’i dyluniwyd i atal a lleihau y problemau a wynebir gan ein trigolion mewn perthynas â meysydd megis yr ystod lawn o fudd-daliadau a hawliau, dyled, cyllidebu, ynni a thanwydd, tai, cyflogaeth, materion defnyddwyr a theuluol/perthnasoedd.  Hefyd yn gynwysedig yn y contract mae pedwar prosiect llai sydd yn cyd-fynd sydd ag angen gwasanaeth penodol.    Trwy fynd allan i dendr ffurfiol ar gyfer contract newydd byddwn yn sicrhau ein bod wedi profi’r farchnad a bod gennym gontract newydd mewn lle ar gyfer 1 Ebrill 2024 gyda darparwr sy’n gallu darparu’r gwasanaethau pwysig hyn ar safon uchel.

 

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan.

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2023

Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2023

Dogfennau Cefnogol: