Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

GORCHYMYN (AMRYW FFYRDD) (TERFYNAU CYFLYMDER 30MYA) CYNGOR SIR DDINBYCH 2023

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Y gwrthwynebiadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r Gorchymyn Traffig arfaethedig uchod. Mae’r Gorchymyn Traffig yn cynnwys cynigion i wneud y terfyn cyflymder yn 30mya ar gyfer y ffyrdd a restrir yn Atodiad A yr adroddiad hwn. Bydd y darnau hyn o ffyrdd yn Eithriadau i’r terfyn amser 20 mya diofyn sy’n dod i rym ar draws Cymru ar 17 Medi 2023.

 

Penderfyniad:

Gwrthod gwrthwynebiadau i Orchymyn (Amryw Ffyrdd) (Terfynau Cyflymder 30mya) Cyngor Sir Ddinbych 2023, sef y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sy’n cynnwys eithriadau i’r terfyn cyflymder 20 mya diofyn.

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Chyfansoddiad Cyngor Sir Ddinbych. Dim ond trwy broses Penderfyniadau Dirprwyedig Aelod Arweiniol y gellir gwrthod gwrthwynebiadau ffurfiol i Orchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig. Dim ond pan fydd y gwrthwynebiadau hynny wedi’u gwrthod y gellir gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ac y daw i rym.

 

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan.

 

Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2023

Dogfennau Cefnogol: