Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

POLISI CASGLIADAU GWASTRAFF DIWEDDARAF 2023

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Mae Polisi Casgliadau Gwastraff diweddaraf wedi’i gynhyrchu gan y Gwasanaeth Gwastraff. Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwasanaeth cyfredol i gadarnhau agweddau o gynnig y gwasanaeth, hefyd mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r model gwasanaeth newydd sydd heb ei weithredu hyd yma. Mae’r Polisi wedi’i rannu i wasanaeth cyfredol a gwasanaeth newydd.

Mae’r prif newidiadau i’r polisi cyfredol yn cynnwys cryfhau cyfrifoldebau / egluro’r polisi a’r newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth, fel a ganlyn:

a)    Mae adrannau 1a ac 1b yn manylu ar amlder y gwasanaeth casglu ailgylchu a heb fod yn ailgylchu a’r math o gynwysyddion a ddefnyddir.  Mae adran 2 yn ymwneud â chasgliadau amgen ar gyfer eiddo sy’n anaddas ar gyfer y gwasanaeth safonol.  Mae adran 3 yn ymwneud â biniau cymunedol swmpus.

b)    Mae adran 4 yn egluro’r gofyniad cyfreithiol yng Nghymru i ailgylchu gwastraff bwyd (o fis Hydref 2023 ymlaen). Mae adran 5 yn ymwneud â’r gwasanaeth casglu cyfarpar electronig a thrydanol a’r gwasanaeth casglu batris.

c)     Mae Adran 7 ‘cyflwyno’ ac Adran 8 ‘ffyrdd preifat heb eu mabwysiadu’ wedi’u hatgyfnerthu yn nhermau beth sy’n dderbyniol a’r hysbysiad ffurfiol o fannau casglu ar gyfer eiddo gyda mynediad wedi’i gyfyngu.

d)    Mae adran 18 yn egluro’r gwasanaeth Gwastraff Hylendid nad yw’n Heintus o 2024 ymlaen.

e)    Mae adran 22 yn amlinellu’r newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus.

 

Penderfyniad:

I gymeradwyo’r Polisi Casgliadau Gwastraff wedi’i ddiweddaru fel ei fod yn gallu dod i rym. 

 

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Y penderfyniad yw cymeradwyo’r Polisi Casgliadau Gwastraff wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwasanaeth cyfredol a chytuno ar y polisi newydd o pan fydd y gwasanaeth newydd yn cael ei roi ar waith yn 2024.

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan

Dyddiad cyhoeddi: 19/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2023

Dogfennau Cefnogol: