Manylion y penderfyniad
SECOND HOME / LONG-TERM EMPTY COUNCIL TAX PREMIUM
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cytuno bod y premiymau ail gartrefi
safonol, ac eiddo gwag hirdymor yr un fath, i leihau effaith trethdalwyr yn
osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol)
ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cael ei gynyddu’n sylweddol, ac eithrio
ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad;
(b) cytuno â’r cynigion canlynol a fydd yn
hysbysu ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r Cabinet a’r Cyngor wneud eu
penderfyniadau terfynol:
·
bod y Premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar
50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025
·
bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn
talu premiwm o 50% yn fwy na’r Premiwm safonol, a
(c) bod y penderfyniad yn cael ei weithredu
ar unwaith, yn unol â pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor, o wybod bod
angen cwblhau’r ymgynghoriad angenrheidiol mewn modd amserol.
Dyddiad cyhoeddi: 25/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 23/05/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: