Manylion y penderfyniad
NORTH DENBIGHSHIRE COMMUNITY HOSPITAL PROJECT
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Partneriaethau
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir
Ddinbych i'r Pwyllgor. Bwriad y Prosiect oedd datblygu safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra (RAH) yn y Rhyl.
Mynegodd yr Aelod Arweiniol bwysigrwydd y prosiect
oherwydd y pwysau presennol sy'n wynebu Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y Prosiect yn
ddatblygiad hanfodol i Sir Ddinbych ac yn brif flaenoriaeth. Roedd Arweinwyr
Prosiect yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn
partneriaeth agos a pharhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BIPBC).
Diolchodd
Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig i’r Pwyllgor am gael ei
wahodd i’r cyfarfod ac aeth ymlaen i roi cyflwyniad a oedd yn cynnwys y manylion canlynol: -
·
Roedd y
Prosiect Cyfalaf yn gymhleth o ran darpariaeth.
·
Roedd
cyfleoedd i'r safle gynnwys gwasanaethau ychwanegol megis Uned Mân Anafiadau
drwy'r broses Achos Busnes.
·
Cymeradwywyd
Achos Busnes Llawn ar gyfer BIPBC ym mis Mawrth 2021.
·
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021 fod y prosiect yn
gadarn ac yn gymeradwy, a bod bellach angen nodi cyllid.
·
Cymeradwyodd BIPBC Strategaeth
Ystadau ym mis Ionawr 2023 gan osod y prosiect RAH o fewn y 6 uchaf, gydag
Achos Busnes Llawn wedi’i gwblhau.
·
Ym mis Ionawr 2023,
gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Bwrdd Iechyd gadarnhau bod yr RAH yn
flaenoriaeth a gofynnwyd am gymorth mewn egwyddor gan y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol. Roedd y Bwrdd Iechyd yn
llunio ymateb.
·
Unwaith y byddai
cymeradwyaeth lawn ar gyfer cyllid wedi'i rhoi, byddai'r prosiect yn cymryd 3
mis i'w roi ar waith a 31 mis i'r cam adeiladu gael ei gwblhau.
Eglurodd y
Cyfarwyddwr IHC fod yna broses fanwl yr oedd angen ei dilyn o fewn y Bwrdd
Iechyd ar gyfer pob datblygiad. Er bod hon wedi bod yn broses hirfaith, roedd
wedi rhoi’r cyfle i’r Bwrdd Iechyd sicrhau ei bod yn gywir, gan gynnwys nifer o
wasanaethau ychwanegol o bwys i’w cynnig ar safle RAH.
Eglurwyd y
broses gymeradwyo i’r Pwyllgor fel yr amlinellir isod:-
·
Achos
Amlinellol Strategol
·
Achos Busnes
Amlinellol
·
Achos Busnes
Llawn - Yna gellid cytuno ar gyllid.
Diolchodd y Cyfarwyddwr IHC i'r Cyngor am eu
partneriaeth agos wrth helpu i gyflawni'r prosiect a chroesawodd gwestiynau gan
yr aelodau.
Arweiniodd trafodaeth rhwng Aelodau at gwestiynau
ynghylch yr amser yr oedd wedi'i gymryd i gyrraedd y cam hwn o'r Prosiect, a
pha mor hir y byddai'n ei gymryd i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn
anffodus, dywedodd y Cyfarwyddwr IHC nad oedd ganddi'r wybodaeth honno. Fodd
bynnag, rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai llinell gyfathrebu barhaus wrth
symud ymlaen.
Mynegodd y Cynghorydd Martyn Hogg rai pryderon
ynghylch deall y broses gymeradwyo a'r camau sydd ynghlwm wrth bob cam.
Gofynnodd a oedd siart llif y gellid ei rhoi i ddangos hyn ac i gefnogi
dealltwriaeth yr aelodau o’r broses. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr IHC y byddai
siart llif yn nodi camau'r broses gymeradwyo fel y nodir uchod. Parhaodd i
egluro bod llwybr cylchol ar gyfer pob un o'r camau a amlinellwyd a oedd yn
caniatáu i gwestiynau gael eu gofyn. Cam presennol y prosiect oedd bod
cwestiynau wedi'u gofyn gan Lywodraeth Cymru a bod angen ymateb iddynt, byddai
hyn wedyn yn rhan o'r broses o gwblhau'r Achos Busnes a fyddai'n arwain at
gytuno ar gyllid. Dros yr wythnosau nesaf roedd y Cyfarwyddwr IHC yn obeithiol
y byddent wedi ymateb i Lywodraeth Cymru, ac y byddai hyn wedyn yn hwyluso'r
penderfyniad terfynol.
Holwyd sut olwg fyddai ar Ysbyty Brenhinol
Alexandra unwaith y byddai'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau a pha wasanaethau y
cytunwyd y byddai’n gweithredu o'r safle. Dywedodd Cyd-bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fod Achos Busnes Llawn
wedi'i rannu'n flaenorol. Roedd hwn yn nodi'r Gwasanaethau a fyddai'n cael eu
darparu, gan gynnwys darluniau o'r ysbyty ar ôl ei gwblhau, ond byddai'n
sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu eto gydag Aelodau'r Pwyllgor.
Holodd yr aelodau a oedd
cyfle i graffu ar Lywodraeth Cymru dros eu proses gwneud penderfyniadau. Er
enghraifft, sut y gallai'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd sicrhau bod y prosiect yn
symud ymlaen i’r camau nesaf yn barhaus. Eglurodd y Cyfarwyddwr IHC eu bod wedi
bod trwy broses gyda'r Strategaeth Ystadau, a thybiwyd bod hyn yn galluogi
sgyrsiau parhaus gyda'r Llywodraeth a'r Bwrdd Iechyd.
Gwnaed sylwadau terfynol gan yr Aelodau ynghylch
faint o amser yr oedd wedi'i gymryd i'r prosiect gyrraedd y cam presennol.
Caewyd llawer o ysbytai cymunedol lleol yn Sir Ddinbych flynyddoedd yn ôl ar yr
addewid y byddai'r cyfleuster hwn yn cael ei ddisodli.
Diolchodd y Cadeirydd
i'r Swyddogion am eu diweddariad a chroesawodd ddiweddariad pellach yng
nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a fyddai'n cael ei gynnal ym mis
Medi 2023.
Ar
ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:
PENDERFYNWYD yn amodol ar yr
uchod a darparu’r wybodaeth ychwanegol -
(i)
derbyn y wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o gyflwyniad
Diweddariad Prosiect Datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra; a
(ii)
gofyn am adroddiad cynnydd pellach ar bob agwedd ar
ddatblygiad y Prosiect i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi
2023.
Ar y pwynt hwn, gan fod y Pwyllgor ar y blaen, cytunodd
y Pwyllgor â chynnig y Cadeirydd i amrywio trefn y busnes a dod ag eitem
Rhaglen Waith Craffu ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 27/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 09/02/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau