Manylion y penderfyniad
ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD DRAFFT 2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
I roi trosolwg o Adroddiad ar
Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022 (gweler Atodiad 1), sydd wedi cael
ei lunio fel gofyniad dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014.
Mae’n rhaid llunio un
Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad rhanbarthol drafft ar gyfer Rhanbarth
Gogledd Cymru a’i gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar gyfer pob un o’r 6 ardal
Awdurdod Lleol a Bwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol.
Bydd fersiwn terfynol yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn mynd
i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w gymeradwyo’n derfynol ym mis Tachwedd
2022 cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
Bod yr Aelod Arweiniol yn cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022 ar frys er mwyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn er cymeradwyaeth, yn sgil yr oedi a achoswyd gan y cyfnod o alaru.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
I geisio cymeradwyaeth ar
gyfer Drafft Terfynol Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim wedi’u datgan.
Dyddiad cyhoeddi: 03/10/2022
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2022
Dogfennau Cefnogol: