Manylion y penderfyniad
DIDDYMU DIRWYON COSBOL AM DDYCHWELYD LLYFRAU BENTHYG AC EITEMAU ERAILL YN HWYR.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Bydd y penderfyniad yn dileu rhwystr sylweddol i’r
defnydd o lyfrgelloedd - dirwyon cosbol hwyr a godir am ddychwelyd llyfrau
benthyg ac eitemau eraill yn hwyr.
Penderfyniad:
Dileu'r dirwyon cosbol hwyr a godir am ddychwelyd llyfrau benthyg ac eitemau eraill yn hwyr.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Mae Strategaeth
Llyfrgelloedd Sir Ddinbych 2019-2022 yn cynnwys y bwriad i “chwilio am
gyfleoedd i leihau unrhyw rwystrau gwirioneddol neu ganfyddedig
sy’n atal pobl rhag cyrchu a defnyddio eu llyfrgell leol”. Mae dirwyon hwyr gan
lyfrgelloedd yn cael eu hystyried yn eang fel rhwystrau sylweddol i’r defnydd o
lyfrgelloedd – mae’r profiad neu’r ofn o gael dirwyon yn arwain at bobl yn
peidio ag ymuno neu ddychwelyd i ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell.
Mae dirwyon, a’r ofn o
ddirwyon yn cronni, yn atal pobl rhag defnyddio ac elwa o wasanaethau’r
llyfrgell, gan effeithio ar eu mynediad at adnoddau a chyfleusterau i gefnogi
eu llythrennedd, eu haddysg, eu sgiliau a’u lles. Mae dirwyon yn effeithio’n
anghymesur ar bobl ar incwm is, ac yn cosbi pobl sy’n benthyca llyfrau (nid oes
cosbau mewn perthynas â benthyca e-adnoddau digidol). Fel holl
lyfrgelloedd Cymru, nid yw Sir Ddinbych wedi codi dirwyon hwyr ar blant a phobl
ifanc ers blynyddoedd lawer. Byddai dileu dirwyon i oedolion yn rhoi tegwch i
holl aelodau'r llyfrgell. Yng Nghymru, mae 4
awdurdod eisoes wedi dileu dirwyon ac mae 5 awdurdod arall yn cynnig eu dileu
yn y flwyddyn nesaf.
Pan oedd yn ofynnol i lyfrgelloedd gau oherwydd
pandemig Covid-19 ym mis Mawrth 2020, addaswyd y system fel na chodwyd dirwyon
hwyr ar unrhyw gwsmer. Byddai'r penderfyniad i ddileu dirwyon yn golygu na
fyddem yn eu hailgyflwyno. Mae llyfrgelloedd mewn sefyllfa dda i gefnogi pobl
yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac yn yr adferiad ôl-bandemig, ac i helpu i fynd i’r afael â thlodi ac
anghydraddoldebau.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 28/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2022
Dogfennau Cefnogol: