Manylion y penderfyniad
CAFFAEL CONTRACT AROLYGU A DADANSODDI ASBESTOS
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Roedd y penderfyniad yn
ymwneud â chael cymeradwyaeth i Gyngor Sir Ddinbych ddechrau proses gaffael ac ymrwymo
i gontract gwaith gyda Chontractwr Arolygu a Dadansoddi Asbestos. Y rheswm dros
ofyn am y gymeradwyaeth oedd oherwydd bod y contract yn un pwrpasol ac wedi’i
drefnu am gyfnod o 12 mis gyda chyfle i’w ymestyn wedyn bob 12 mis hyd uchafswm
o 10 mlynedd yn ddibynnol ar berfformiad.
Penderfyniad:
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Y rheswm dros y
penderfyniad hwn oedd galluogi’r Cyngor i gynnal cytundeb contractiol
gyda chontractwr Arolygu a Dadansoddi Asbestos er mwyn sicrhau darpariaeth
gwasanaeth Asbestos parhaus.
Mae gan y Cyngor
gytundeb cyfredol gyda North Star Environmental, yn
dilyn ymarfer caffael a gwblhawyd ym mis Tachwedd 2018. Fodd bynnag, mae’r tîm wedi penderfynu y
byddai dull hyblyg a mwy syml yn ffafriol. Yn dilyn ymgynghoriad â’r timau
Cyfreithiol a Chaffael, teimlwyd y byddai Contract yn ôl y Gofyn yn hwyluso
perthynas weithio well rhwng partneriaid a chaniatáu ar gyfer gwasanaeth mwy
pwrpasol.
Bydd y cytundeb
fframwaith cyfredol rhwng Cyngor Sir Ddinbych a North Star
Environmental yn dod i ben ar 11 Tachwedd 2022.
Mae wedi’i ymestyn tan 31 Ionawr 2023 i ganiatau
digon o amser i gwblhau’r broses gaffael.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim wedi’u datgan.
Dyddiad cyhoeddi: 22/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2022
Dogfennau Cefnogol: