Manylion y penderfyniad
CAFFAEL CYNWYSYDDION AR GYFER PROSIECT AILFODELU GWASTRAFF
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Mae’r penderfyniad yn ymwneud â
chaffael cynwysyddion ailgylchu sych (troli bocs) i gefnogi’r model gwastraff newydd
(didoli ar garreg y drws). Mae’r penderfyniad yn galluogi dyfarnu contract yn
uniongyrchol i’r cyflenwr yn dilyn ymarfer Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ym
Mawrth 2022.
Penderfyniad:
Cytunwyd i ddyfarnu contract yn uniongyrchol ar gyfer cynwysyddion ailgylchu sych i gefnogi’r model gwastraff newydd a bod y penderfyniad yn cael ei weithredu’n syth oherwydd y risg o’r gost yn cynyddu neu oedi oherwydd ffactorau marchnad ansicr.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Cymeradwyo dyfarnu contract yn
uniongyrchol i alluogi trefnu archeb ar gyfer y cynwysyddion ailgylchu sych newydd
ac eitemau ategol fel y nodir yn Atodiad 1 (Eitem Rhan 2).
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 22/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2022
Dogfennau Cefnogol: