Manylion y penderfyniad
Rhaglen Waith Archwilio
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.
Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r
materion canlynol:-
Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai'r
adroddiadau ar Gam-drin Cŵn a'r Model Gwastraff ac Ailgylchu Newydd ar
gael i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref 2022. Fodd bynnag, roedd yr
adroddiad ar Ail Gartrefi a Gosodiadau Gwyliau Tymor Byr yn dibynnu ar ragor o
wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai’n cael ei aildrefnu ar gyfer
cyfarfod mis Rhagfyr.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu ar ôl ystyried nifer o geisiadau craffu yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf 2022 wedi cyfeirio dau bwnc i'r Pwyllgor eu
harchwilio'n fanwl. Roedd y rhain yn ymwneud ag amseroedd ymateb
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i alwadau brys, ac effaith cyflwyno’r
terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr ar ffyrdd y sir ar yr Awdurdod ac ar
drigolion. Roedd y ddwy eitem wedi’u hamserlennu ar raglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022.
Ar ôl ystyried yr uchod:
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r
dyfodol y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Daeth y cyfarfod i ben am
11.20 am.
Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 08/09/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/09/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Dogfennau Cefnogol: