Manylion y penderfyniad
FLOOD RISK MANAGEMENT AND RIPERIAN LAND OWNERSHIP TASK AND FINISH GROUP
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor yr adroddiad (eisoes wedi’i ddosbarthu) yn
rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl
Llifogydd a Pherchnogaeth Glannau Afonydd a oedd yn rhoi diweddariad i’r
Pwyllgor ar weithgareddau’r Grŵp.
Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd adroddiad terfynol y Grŵp Tasg a
Gorffen a oedd yn rhoi manylion ei gasgliadau a’i argymhellion ac yn ceisio
cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer yr argymhellion hynny.
Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cynghorydd Huw Williams (Cadeirydd) i holl
aelodau mewnol ac allanol y grŵp am eu gwaith diwyd. Diolchodd hefyd i Karen Evans, Swyddog
Gwasanaethau Democrataidd, am y gwaith yr oedd wedi’i wneud ac am yr adroddiad
rhagorol a ddrafftiwyd ar ran y Grŵp.
Amlinellodd y Cadeirydd gefndir sefydlu’r y Grŵp Tasg a Gorffen gan y
Pwyllgor, a sefydlwyd yn bennaf i
archwilio dulliau i gryfhau ymhellach y rhyngweithio a’r berthynas waith rhwng
awdurdodau rheoli perygl llifogydd cyhoeddus a pherchnogion glannau
afonydd. Dywedodd bod holl aelodau’r
Grŵp wedi dysgu cryn dipyn am swyddogaethau, cyfrifoldebau ac arferion
gwaith y naill a’r llall yn ystod y gwaith.
O ganlyniad i hyn roedd pawb yn cytuno bod cydweithio a chyd-ymddiriedaeth
wedi cryfhau o ganlyniad i fodolaeth y Grŵp. Roedd y Grŵp hefyd wedi chwalu sawl myth
cysylltiedig â chyfrifoldebau am, a’r caniatâd a geisir am waith cynnal a chadw
afonydd a glannau afonydd, megis gwir nifer y ceisiadau a dderbynnir am
Hawlenni Gweithgaredd Atal Perygl Llifogydd gan berchnogion tir,
cyfrifoldebau o ran perchnogaeth glannau
afonydd yn nalgylch Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn ac ati, sydd i gyd wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad. Mae gwaith y
Grŵp hefyd wedi tynnu sylw at yr ystod eang o wybodaeth sydd ar gael i’r
cyhoedd ar wefannau pob awdurdod rheoli perygl llifogydd yn cynnwys adran
cwestiynau cyffredin hynod ddefnyddiol ar wefan Dŵr Cymru. O ganlyniad i hyn, un o argymhellion y
Grŵp Tasg a Gorffen oedd, er mwyn hwyluso mynediad at wybodaeth i’r
cyhoedd, y dylid ail-lansio tudalen Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y
Cyngor ei hun ac y dylai gynnwys dolenni at we-dudalennau perthnasol Cyfoeth
Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Dylai’r
tudalennau newydd hefyd gynnwys
gwybodaeth am gyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd a chyfrifoldebau
perchnogion glannau afonydd.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd y Cadeirydd, aelodau’r
Grŵp Tasg a Gorffen a swyddogion:
·
bod dealltwriaeth yr holl randdeiliaid
o gyfrifoldebau’r naill a’r llall a’u
perthynas waith wedi gwella yn ystod gweithrediad y Grŵp Tasg a
Gorffen.
·
gwnaed yr argymhelliad i
weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu a chyflwyno taflen wybodaeth gyffredinol
ar rolau a chyfrifoldebau awdurdodau rheoli risg a pherchnogion eiddo ar hyd
Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn o ganlyniad i’r cymhlethdodau cysylltiedig â
pherchnogaeth luosog glannau afon mewn ardal boblog dros ben, a chamsyniad eang
mai CNC sy’n gyfrifol am ffiniau preifat sy’n cyffinio â chyrsiau
dŵr. Bernir nad oes angen
ymarferion tebyg mewn rhannau eraill o’r sir lle mae perchnogion tir mwy yn
gyfarwydd â’u cyfrifoldebau;
·
mae gan yr awdurdod lleol
bwerau o dan y Ddeddf Draenio Tir i ymyrryd mewn rhai amgylchiadau. Fodd bynnag er bod y pŵer hwn i ymyrryd
gan yr Awdurdod Lleol, nid oes dyletswydd arno i wneud hynny.
·
mae gan berchnogion tir
glannau afonydd gyfrifoldebau penodol o ran peidio â rhwystro cyrsiau dŵr
ac ati, ac mae hawl ddigolledu am dorri cyflenwadau dŵr naturiol yn ôl y
gyfraith gyffredin.
·
mae’n rhaid gwasanaethu
datblygiadau newydd gyda systemau draenio dŵr wyneb a dŵr budr ar
wahân, nid dyma’r achos gyda datblygiadau preswyl hŷn lle caiff dŵr
wyneb a dŵr budr yn y pen-draw ei sianelu i’r un system garthffosiaeth;
·
byddai dosbarthu’r
adroddiad i bob cyngor dinas, tref a chymuned yn helpu i drosglwyddo gwybodaeth
ddefnyddiol ynglŷn â chyfrifoldebau
rheoli perygl llifogydd i bob preswylydd a busnes yn y sir.
Pwysleisiodd aelodau’r Grŵp Tasg a Gorffen fanteision gwaith y
Grŵp, lle cafodd problemau y tynnwyd sylw atynt mewn nifer o grwpiau a phwyllgorau eraill eu
trafod yn agored gyda’r holl randdeiliaid.
Cynhyrchodd hyn drafodaeth dda, agored ac adeiladol a arweiniodd at well
dealltwriaeth o swyddogaethau’r naill a’r llall yn ogystal ag o’r cyfyngiadau y
mae’n rhaid i bawb weithio oddi tanynt.
Roedd teimlad ymysg pawb a oedd yn gysylltiedig â gwaith y Grŵp bod
lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth a dealltwriaeth wedi’i feithrin rhyngddynt. Mae’r Grŵp felly’n dymuno parhau i
gyfarfod o leiaf bob blwyddyn i drafod materion sy’n peri pryder a
chynlluniau’r dyfodol.
Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Grŵp Tasg a Gorffen am ei waith ac am
yr adroddiad cynhwysfawr. Roedd y
Pwyllgor yn cefnogi brwdfrydedd y Grŵp dros barhau i gyfarfod ar sail
flynyddol a’i awch i weithio gyda’r holl randdeiliaid tua’r dyfodol. Awgrymwyd felly bod y Grŵp yn adrodd i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau bob blwyddyn ar ei drafodaethau. Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:
Penderfynwyd yn unfrydol, yn
amodol ar y sylwadau uchod, diolch i’r Grŵp Tasg a Gorffen am ei waith,
derbyn ei adroddiad a chymeradwyo ei gynnwys ynghyd â’r argymhellion canlynol:
(i)
Bod
Gweithgor Perygl Llifogydd yn cynnwys yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a
chynrychiolwyr perchnogion tir yn parhau i gyfarfod y flynyddol er mwyn cael y
wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw faterion a disgwyliadau ac adrodd yn ôl ar y
trafodaethau hyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau
(ii)
Bod y
dudalen Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ar wefan y Cyngor yn cael ei
hail-lansio i gynnwys:
(a) Dolenni at we-dudalennau perthnasol Cyfoeth
Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ac
(b) eglurhad ar
gyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risg a Pherchnogion Glannau Afonydd,
(iii)
a gan weithio
mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru bod taflen
wybodaeth gyffredinol yn cael ei chreu ar gyfrifoldebau perchnogion glannau
afonydd a’i dosbarthu i eiddo ger Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, a
(iv)
bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn cael
ei gyfieithu a’i anfon at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned i’w gynnwys ar eu
gwefannau.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 10/03/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/03/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Dogfennau Cefnogol: