Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

NEW WASTE AND RECYCLING OPERATING MODEL GENERAL UPDATE AND COMMUNICATIONS PROGRESS

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniadau:

Aeth yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd ar y cyd â'r Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd a Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu  a'r aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes). Pwysleisiwyd y cyflwynwyd yr eitem ar y model gwastraff i’r pwyllgor hwn eisoes a bod swyddogion yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i’r aelodau. Dywedodd yr Aelod Arweiniol y trafodwyd y model gwastraff yn gyntaf ym mis Rhagfyr 2018 oherwydd y pwysau ariannol yr oedd yr awdurdod yn ei wynebu.

Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol mai’r rheswm dros yr adroddiad oedd rhoi gwybod i’r aelodau ar ba gam yr oedd y model newydd o ran ei ddatblygiad a'i sefydliad, a pha waith sydd wedi digwydd ers y cyflwyniad diwethaf i'r pwyllgor. Mae llawer o waith a chynnydd wedi'i wneud. Mae’r depo newydd yn Ninbych, sydd ar ystâd ddiwydiannol Colomendy, yn ddatblygiad allweddol yn y cynllun. Roedd manteision y prosiect wedi dod yn amlwg mewn ymweliad safle diweddar. Roedd y rhain yn cynnwys y manteision i fusnesau sydd eisoes ar yr ystad - wrth ddatblygu'r tir a ddefnyddiwyd ar gyfer y depo bu modd i’r Cyngor ddatgloi darn o dir y tu ôl i nifer o fusnesau preifat gan roi cyfle i'r busnesau hyn ehangu.  Roedd pawb wedi  croesawu'r cyfle hwn.

 

Cafodd yr aelodau adolygiad o bob un o’r atodiadau a ddarparwyd er ystyriaeth a gwybodaeth yr aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y manylion canlynol:   

·         Wedi’i gynnwys yn yr adroddiad yn atodiad 2.b roedd tabl yn amlygu'r newidiadau arfaethedig i'r polisïau Casglu Gwastraff Domestig presennol.  Pe bai’r Pwyllgor yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig byddai’r polisïau newydd yn cael eu cymeradwyo drwy’r broses penderfyniadau dirprwyedig erbyn Mawrth 2022;

·         Roedd rhedeg y gwasanaeth bin glas (ailgylchu cymysg) a du (gwastraff gweddilliol) wedi mynd yn ariannol anymarferol. Byddai cyfathrebu gyda phreswylwyr i egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r model newydd a'u helpu i ddeall pam ei fod yn cael ei gyflwyno yn hanfodol i weithrediad y trefniadau newydd.

·         Roedd y rhesymau dros newid y model a’r system wedi’u trafod mewn manylder cyn i’r penderfyniad i newid gael ei wneud. Roedd y manteision wedi’u nodi yn atodiad 5. Nid oedd y model cyfredol yn gynaliadwy yn ariannol nac amgylcheddol.

·         Roedd swyddogion wedi edrych ar, ac wedi dysgu gan awdurdodau eraill a oedd eisoes yn defnyddio modelau ailgylchu a thrin gwastraff tebyg.

·         Byddai’r model newydd yn galluogi staff i ennill gwybodaeth newydd a datblygu ac ehangu profiadau. Bydd hefyd yn galluogi cyflogi  mwy o staff ar wahanol lefelau;

·         Roedd bwriad i gasgliadau tecstilau fod ar gael ar draws y sir naill ai drwy drefniadau ar y cyd neu gasglwyr CSDd. Dywedwyd wrth yr aelodau y llwyddwyd i gael arian gan Lywodraeth Cymru cyn Covid i ymestyn casgliadau tecstilau i fwy o gartrefi yn y sir ond bod y pandemig wedi oedi hyn.  Gobeithir y bydd y gwasanaeth yn ailgychwyn pan fydd yr economi'n dechrau dod ato’i hun.

·         Fel rhan o’r gwasanaeth casglu sbwriel bydd dros 44,000 o aelwydydd yn cael troli bocs. Roedd swyddogion yn teimlo mai sach cardbord fyddai fwyaf addas ar gyfer ailgylchu a bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i aelwydydd. Gellid prynu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu ddarparu sachau ychwanegol.

·         Cadarnhawyd y bu rhywfaint o oedi mewn caffael y cerbydau trydanol. Pwysleisiwyd na fyddai hyn yn achosi oedi  yn ngweithrediad y system newydd.

·         Mae cost gwaredu gwastraff mewn biniau du yn uwch na chost anfon eitemau i ffwrdd i'w hailgylchu. Bydd ailgylchu mwy o eitemau yn hytrach na’u rhoi mewn bin du yn arbed mwy o arian. Mae’n bwysig felly addysgu preswylwyr am ailgylchu. Mae biniau du a throliau  newydd yn cael eu cynhyrchu o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.  Mae modd hefyd ailgylchu’r biniau a'r bocsys troli eu hunain (ar wahân i’r fflapiau agor/cau).

·         Bydd casgliadau â chymorth yn parhau o dan y model newydd;

·         Roedd swyddogion yn teimlo bod angen codi am finiau newydd. Dywedwyd wrth yr aelodau y codir tâl ar hyn o bryd o dan y model presennol am finiau newydd. Fel rhan o roi’r model newydd ar waith bydd yr holl finiau newydd a roddir i ddechrau yn rhad ac am ddim a bydd cyfnod o 12 mis i bobl wneud cais am finiau gwahanol. Ni chodir tâl am fynd â biniau diangen i ffwrdd o aelwydydd.

·         Mae’r contract presennol ar gyfer ailgylchu gwastraff yr awdurdod yn ei le hyn y dyddiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno’r model newydd.

·         Mae’r term tecstilau yn cyfeirio at unrhyw eitem o ddillad neu bethau wedi’u gwneud o ddefnydd. Byddai'r Co-options, y cwmni sy’n casglu'r tecstiliau yn Sir Ddinbych, yn ailddefnyddio ac yn gwerthu unrhyw eitemau addas ac yn anfon unrhyw beth nad oes modd ei ailddefnyddio i'w ailgylchu. Mae Co-options yn cynnig casgliadau tecstiliau ymyl y palmant yn bennaf yng ngogledd y sir ar hyn o bryd.

·         Bydd microsglodion ar finiau yn galluogi adnabod pa fin sy’n perthyn i pa eiddo. Byddai hyn yn galluogi swyddogion i ddynodi materion fel biniau ar goll, eiddo gwag neu aelwydydd sydd ddim yn defnyddio eu biniau. Nid bwriad hyn yw cadw golwg ar yr eitemau sy'n cael eu rhoi mewn biniau. Dechreuodd y broses o gynorthwyo ac addysgu preswylwyr am ailgylchu gyda’r cynllun 'Cadw i fyny a’r Jonesiaid’ a lansiwyd yn 2019.

·         Nid yw geiriad ffyrdd heb eu mabwysiadu yn y polisi yn newid. Roedd swyddogion yn teimlo fod hwn yn bolisi y bydd angen ailedrych arno pan gaiff y model newydd ei roi ar waith;

·         Bydd treial bach gyda biniau â microsglodion yn dechrau yng Ngorllewin y Rhyl ym mis Chwefror 2022    Bydd yr aelodau'n cael adroddiad ar y canlyniadau. Dim ond biniau du a sachau fydd yn cael  microsglodyn ar hyn o bryd. Mae nifer o wahanol opsiynau y gellir eu rhoi i preswylwyr ac mae swyddogion yn hapus i asesu eu hanghenion.

·         Mae’r Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd yn rhoi arweiniad ar gyfer preswylwyr a busnesau. Mae’n rhoi gwybodaeth i’r awdurdod ar gamau gorfodi. Mae contract gorfodi yn ei le gyda District Enforcement ar gyfer patrolau sbwriel a baw cŵn.

·         Awgrymwyd bod aelodau etholedig yn cael profiad o'r 'gwasanaeth safonol’ ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022. Byddai hyn yn caniatáu i aelodau sydd ar hyn o bryd yn defnyddio'r gwasanaeth bin glas/du ymyl y palmant brofi'r gwasanaeth newydd am wyth wythnos.  Byddai adborth defnyddwyr ar y gwasanaeth ‘newydd’ yn ddefnyddiol i gynllunio ar gyfer gweithrediad llawn y gwasanaeth maes o law.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr ymateb manwl i bryderon a chwestiynau’r aelodau.

 

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried y wybodaeth fanwl a gyflwynwyd i’r aelodau ac ar ôl trafodaeth fanwl ar y cynnwys

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   nodi’r cynnydd y mae Tîm y Prosiect wedi’i wneud hyd yma er mwyn cyflwyno’r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu newydd i breswylwyr erbyn haf 2023.

(ii) cymeradwyo’r gyfres o bolisïau gwastraff cartref ac ailgylchu (Atodiad II) a nodi bwriad y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol i sicrhau y caiff y polisïau eu mabwysiadu drwy’r broses penderfyniadau dirprwyedig erbyn mis Mawrth 2022, a

(iii)                gofyn bod y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn cyflwyno adroddiad arall i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ganlyniadau’r prosiectau peilot yng Ngorllewin y Rhyl (defnyddio microsglodion mewn cynwysyddion gwastraff), Bron y Crêst (newid i’r gwasanaeth biniau cyffredin) a mentrau Profiad Ailgylchu Aelodau Etholedig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau

Dogfennau Cefnogol: