Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

STAKEHOLDER/COMMUNITY ENGAGEMENT ACTIVITY FOR POTENTIAL CENTRAL RHYL AND CENTRAL PRESTATYN COASTAL DEFENCE SCHEMES

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, ar y cyd â’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a'r Amgylchedd a'r Peiriannydd Risg Llifogydd y gweithgaredd ymgysylltu â Rhanddeiliaid/Cymunedau ar Gynlluniau Amddiffyn yr Arfordir posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Yn ystod y cyflwyniad eglurodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion bod Craffu wedi gofyn am yr adroddiad er mwyn cael gwybodaeth am gasgliadau’r ymgynghoriad cymunedol. Diolchwyd i Matthew Hazelwood – Rheolwr Prosiect a oedd wedi cadeirio'r holl gyfarfodydd yn y Rhyl ac wedi gwneud llawer o waith ar y cynllun.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod sesiwn ymgynghori ‘galw heibio’ gyhoeddus ar gynllun amddiffyn arfordir Canol Prestatyn i’w chynnal ar 13 Rhagfyr 2021. Atgoffodd swyddogion yr aelodau bod adroddiad blaenorol wedi’i gyflwyno i’r aelodau ac y gwnaed cais am adroddiad dilynol ar yr ymarfer ymgysylltu.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor rhoddwyd y manylion canlynol:

·         Mater technegol yng nghyfarfod diwethaf Grŵp Ardal Aelodau Prestatyn arweiniodd at orfod trefnu’r diweddariad.

·         Yng nghlwb golff y Rhyl y mae'r risg pennaf. Bydd cynnal a chadw gweddill y gwaith arfordirol gyda gobaith yn rhoi 50 mlynedd yn fwy o amddiffyniad. Pryder a gododd y swyddogion oedd y twyni yng Ngronant. Roedd archwiliadau a monitro rheolaidd yn digwydd yn y safle a chaiff prosiectau’r dyfodol eu trafod. 

·         Mae’r ciosgau ger y traeth yn y Rhyl yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Mae’r tîm eiddo corfforaethol yn siarad â thenantiaid a gweithredwyr y ciosgau. Ni fydd yn bosibl symud ymlaen â’r cynllun gyda’r ciosgau presennol yn eu lle.

·         Mae cydweithio agos yn digwydd gydag adrannau eraill ar gynlluniau posibl ar gyfer promenâd y Rhyl  a bydd  hyn yn parhau i sicrhau bod yr holl gynlluniau a datblygiadau yn yr ardal yn cydblethu.

·         Bydd ymgysylltiad yn parhau drwy ddatblygu’r cynllun gyda phreswylwyr a gweithredwyr busnesau yn yr ardal. Bydd trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol yn parhau drwy gydol y camau datblygu ac adeiladu ac os bydd angen gellid ystyried cynigion ar gyfer addasiadau fel sy'n briodol.

·         Yn ddibynnol ar y tywydd ac amodau’r tir rhagwelir y bydd Cynllun Canol y Rhyl yn cymryd hyd at ddwy flynedd a hanner i'w gwblhau, gyda Chynllun Canol Prestatyn yn cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau.  Bydd yn rhaid ymgymryd â Chynllun Canol Prestatyn, a fydd yn symud yn ei flaen yn seiliedig ar amodau’r tir yn yr ardal, ar gyflymder arafach.

·         Mae gostyngiad mewn carbon wedi’i nodi fel rhywbeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol yn yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer y ddau gynllun. 

 

Diolchodd aelodau i’r swyddogion a’r contractwyr am eu gwaith ar y cynllun.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

Penderfynwyd: - Bod y Pwyllgor -

 

(i)           ar ôl archwilio cwmpas a chasgliadau'r ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar y cynlluniau, yn argymell i'r Cabinet ei fod yn fodlon â'r modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriadau ac â’u casgliadau; a

(ii)          cadarnhau ei fod, fel rhan o’i ystyriaethau, wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (ynghlwm yn Atodiadau 3a a 3b yr adroddiad). 

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau

Dogfennau Cefnogol: