Manylion y penderfyniad
MODEL BUDDSODDIAD CYDFUDDIANNOL - PARTNERIAETH ADDYSG GYMRAEG YSGOLION YR 21AIN GANRIF - GWEITHRED YMLYNIAD
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Roedd Sir Ddinbych, ynghyd â 23
Awdurdod Lleol arall a Sefydliadau Addysg Bellach wedi ymrwymo i Gytundeb
Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru gyda WEPCo ar 30 Medi 2020, pob
un yn “Gyfranogwyr Parhaus”, a WEPCo y cwmni cyd-fenter a sefydlwyd rhwng y
Partner Cyflenwi Sector Preifat (PCSP) ac is-gorff Banc Datblygu Cymru.
Ers ei gwblhau, mae pum Awdurdod Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi mynegi dymuniad i ymrwymo i CPS i allu tynnu gwasanaethau i lawr o WEPCo fel Cydgyfranogwyr.
Penderfyniad:
I gymeradwyo ac ymrwymo i Weithred Ymlyniad i alluogi’r Cyfranogwyr sy’n Ymuno i fod yn barti ac wedi eu rhwymo i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Fel parti presennol i’r CPS
(“Cyfranogwr Parhaus”) mae’n ofynnol i’r Cyngor, gyda phob Cyfranogwr Parhaus
arall, gymeradwyo ac ymrwymo i’r Weithred Ymlyniad i alluogi’r Cydgyfranogwyr i
fod yn barti ac yn rhwym gan y CPS.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim
cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 03/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 03/11/2021