Manylion y penderfyniad
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2021-2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Ceisio cymeradwyaeth i’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim hwn
gyda'r nod o ymchwilio'n drylwyr i heriau cydraddoldeb wrth i ni ddatblygu ein
Cynllun Corfforaethol newydd.
Penderfyniad:
Cytuno ar gynnwys a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dros Dro 2021 i 2022 Cyngor Sir Ddinbych mewn cysylltiad â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
O dan Ddeddf
Cydraddoldeb 2020 mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi Cynlluniau
Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd. Cyn
2017 roedd Cyngor Sir Ddinbych yn cynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb
Strategol ar wahân. Fodd bynnag yn 2017 cafodd ein Hamcanion Cydraddoldeb
Strategol a’n Hamcanion Lles (o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) eu
hintegreiddio i ffurfio ein Cynllun Corfforaethol. Gan y bydd ein Cynllun
Corfforaethol yn cael ei adnewyddu yn 2022, bydd cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb
Strategol wedi dirwyn i ben.
Ym mis Chwefror 2020
ysgrifennodd Cyngor Sir Ddinbych at y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
yn egluro pam bod ymagwedd integredig mor fuddiol ac yn gofyn am gael ein
heithrio rhag cynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol annibynnol er mwyn
canolbwyntio ar gynhyrchu ein Cynllun Corfforaethol (unwaith eto’n integreiddio
Amcanion Cydraddoldeb gydag Amcanion Lles). Yn amgaeedig fe welwch ffeil o’r
enw ‘Letter to Ruth Coombs’.
Ym mis Rhagfyr 2020
cafwyd ateb gan y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau dynol yn egluro nad oes yn
rhaid i ni gyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb erbyn mis Hydref 2020 ond y gallant
fod yn ‘Amcanion cydraddoldeb Interim’. Gweler y ffeil atodedig o’r enw
‘Denbighshire 18.02.21’.
Er mwyn cydymffurfio â’r
gofynion deddfwriaethol, argymhellir bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Cynllun
Cydraddoldeb Interim hwn.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 26/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 26/10/2021