Manylion y penderfyniad
CYFLWYNO FFIOEDD AR GYFER DARPARU CYNWYSYDDION GWASTRAFF AC AILGYLCHU: PENDERFYNIAD DIRPRWYEDIG AELOD ARWEINIOL
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Cyflwynwyd y
cynnig o arbed £40,000 drwy adfer costau llawn y ddarpariaeth biniau olwynion
yn ystod y broses o osod cyllideb 2021/22, a byddai hynny’n cael ei gyflawni
drwy godi tâl am gynwysyddion gwastraff domestig newydd ac ychwanegol. Cynigir gweithredu’r newid hwn cyn gynted ag
y bydd hynny’n ymarferol er mwyn i’r Gwasanaeth gyflawni’r arbedion y cytunwyd
arnynt.
Mae Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) yn
galluogi awdurdod lleol i ddiffinio’r math o fin y dylid ei ddefnyddio i gyflwyno
gwastraff domestig, ac i ofyn i’r preswylydd dalu am y bin. Nid oes raid i breswylwyr nad oes ganddynt
fin ar eu cyfer eu hunain yn unig (h.y. os ydynt yn rhannu cyfleusterau
cymunol) dalu am y biniau, ond mae’n rhaid i’r biniau gael eu darparu gan gwmni
rheoli’r eiddo, y datblygwr, y landlord neu’r darparwr tai, a gellir adfer y
gost hon gan y preswylwyr drwy dâl gwasanaeth.
Bydd pob cynhwysydd gwastraff newydd a ddarperir
gan y cyngor fel rhan o gyflwyniad y dull casglu gwastraff newydd yn cael eu
darparu’n rhad ac am ddim.
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn cyflwyno’r atodlen codi tâl am gynwysyddion gwastraff (fel y nodir yn Atodiad 1 o’r adroddiad sydd ynghlwm) a’i bod yn cael ei gweithredu ar unwaith.
Bod y Cyngor yn
mabwysiadu Polisi Codi Tâl am Finiau newydd (gweler Atodiad 2 i’r adroddiad
sydd ynghlwm) a’i fod yn cael ei weithredu ar unwaith.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Mae’r sefyllfa bresennol, lle nad yw CSDd yn codi tâl am finiau newydd, eisoes yn rhoi pwysau ariannol ar y Cyngor. Rhagwelir y bydd y pwysau yma'n cynyddu £35,000 y flwyddyn os na fabwysiedir y polisi hwn oherwydd yr ymchwydd yn y galw am gynwysyddion ychwanegol a newydd, wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref a chynhyrchu mwy o wastraff.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 20/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2021
Dogfennau Cefnogol: