Manylion y penderfyniad
I GYMERADWYO CONTRACT NEWYDD CYNLLUN BYW Â CHYMORTH YN LLANGOLLEN
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Y penderfyniad yw bod yr Aelod Arweiniol
yn cymeradwyo dyfarnu contract i’r darparwr llwyddiannus yn dilyn ymarfer
tendro i benodi sefydliad i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i ddau unigolyn
sydd ag anableddau dysgu a fydd yn denantiaid yn byw mewn cynllun byw â
chymorth yn Llangollen, Sir Ddinbych.
Penderfyniad:
I gymeradwyo contract newydd cynllun byw â chymorth yn Llangollen.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Ceisio cymeradwyaeth i
ddyfarnu’r contract i Valorum Care Group (1st Enable).
Mae Canllawiau Ariannol
(Rheolau Gweithdrefn Gontractau) Cyngor Sir Ddinbych yn nodi y dylai'r broses o
dendro am gontractau sy’n werth dros £1miliwn gael cymeradwyaeth Aelod
Arweiniol.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 09/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2021