Manylion y penderfyniad
TREFNIADAU DERBYN I YSGOLION AR GYFER 2022-2023
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Mae'n ofynnol i'r holl Awdurdodau Derbyn bennu
eu trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion yn eu hardal. Cyngor Sir Ddinbych yw
Awdurdod Derbyn yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn
Sir Ddinbych. Mae’r trefniadau derbyn yn cael ei pennu ar sail flynyddol, a rhaid eu
cwblhau erbyn 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu. Y flwyddyn benderfynu yw’r flwyddyn academaidd sy'n dechrau 2 flynedd
cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol ynddi.
Dechreuodd y flwyddyn benderfynu ar 1 Medi 2019
ar gyfer trefniadau derbyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2022-2023.
Ar gyfer derbyn ym mis Medi 2022, rhaid pennu’r
trefniadau erbyn 15 Ebrill 2021. Mae'r
trefniadau hyn yn debyg iawn i rai'r flwyddyn flaenorol heb unrhyw newidiadau
mawr ar wahân i'r dyddiadau angenrheidiol.
Penderfyniad:
Cofnodi’r penderfyniad penodol a wnaed gan yr Aelod Arweiniol yn unol â’r argymhelliad yn yr adroddiad; penderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych, ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Mae angen penderfynu ar drefniadau derbyniadau ysgolion cymunedol ac
ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych, ar gyfer blwyddyn academaidd
2022-2023.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 01/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 01/04/2021
Dogfennau Cefnogol:
- School Admissions March 2021 PDF 277 KB
- Appendix 1 - School Admissions Arrangements 2022-23 (English) PDF 361 KB
- Appendix 2 - School Admission Numbers Sept 2022 PDF 34 KB
- Appendix 3 - Impact Assessment School Admissions Arrangements 2022.23 PDF 96 KB
- Appendix 2 - School Admission Numbers Sept 2022 PDF 34 KB
- Appendix 3 - Impact Assessment School Admissions Arrangements 2022.23 PDF 96 KB
- Atodiad 1 - Trefniadau Derbyn Ysgolion 2022-23 (Cymraeg) PDF 361 KB
- School Admissions March 2021 Cym PDF 277 KB