Manylion y penderfyniad
Addewid Dim Hiliaeth Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Mae disgrifiad o’r fenter Dim Hiliaeth
Cymru ar gael yma https://zeroracismwales.co.uk/?lang=cy. Mae'n
ddatganiad pwysig o egwyddor i sefydliadau yng Nghymru ac yn dangos nad yw sefydliadau’r
sector cyhoeddus yn arbennig yn fodlon goddef hiliaeth mewn unrhyw ffurf.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
yn cydlynu’r gwaith i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i gytuno i'r addewid ac er
mwyn cynyddu effaith hyn, gofynnwyd i bob addewid gael ei wneud erbyn 20
Mawrth. Mae’r penderfyniad hwn yn cael ei weithredu yn syth i gyrraedd y
dyddiad terfynol hwn.
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn addo ei gefnogaeth i Ddim Hiliaeth Cymru a bod y penderfyniad dirprwyedig hwn yn cael ei weithredu'n syth.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Trwy addo ein
cefnogaeth i’r fenter hon, mae’r Cyngor yn cyhoeddi eu safle mewn ffordd
gadarnhaol.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w
ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2021
Dogfennau Cefnogol: