Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

POLISI DYRANIADAU TAI A COVID 19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Diben:

Ceisio cymeradwyaeth i barhau gyda’r newid rhannol a dros dro i’r polisi dyraniadau ar gyfer tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych mewn ymateb i effaith Covid-19 ar lety dros dro / brys ar gyfer aelwydydd digartref.

 

 

Penderfyniad:

Parhau â’r diwygiad i’r Polisi Dyraniadau, am gyfnod pellach o 3 mis o 19 Hydref 2020.

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniad:

Mae’r penderfyniad hwn yn ymateb i gynnydd parhaus mewn darparu llety ar gyfer aelwydydd digartref yn ystod cyfnod clo’r pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod yn rhaid darparu llety i’r aelwydydd hyn yn barhaol. Mae’r penderfyniad hwn yn cefnogi cynnydd mewn argaeledd yn y tai cymdeithasol i fodloni’r angen digynsail hwn.

 

 

Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:

Dim cysylltiad i’w ddatgan.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 03/11/2020

Dogfennau Cefnogol: