Manylion y penderfyniad
NORTH EAST WALES ARCHIVES AND RUTHIN GAOL
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.
Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a
Charchar Rhuthun, gwnaeth y Pwyllgor:
Benderfynu:
(i)
nodi’r
cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar
Rhuthun yn y dyfodol;
(ii)
cofnodi
pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr
Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Hyb yn yr
Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a
(iii)
bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad
presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er
gwybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Dogfennau Cefnogol: