Manylion y penderfyniad
IMPACT OF RUTHIN PRIMARY REVIEW
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal.
Penderfynodd y
Pwyllgor:
ar ôl ystyried y
canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth -
(i)
derbyn
y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn
erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
(ii)
cadarnhau,
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1);
(iii)
bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi
i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol
fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun;
(iv)
bod
gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r
Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a
(v)
bod
diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth
Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran
sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol
pandemig COVID-19.
Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Dogfennau Cefnogol: