Manylion y penderfyniad
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniad:
Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir
Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych: Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i
annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei
archwiliad o’r penderfyniad uchod. Er
bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner
aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth
wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd. Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r
canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i
adolygu eu penderfyniadau.
Dywedodd aelodau
Gweithrediaethau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r farn
bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a’u
bod wedi creu trafodaeth adeiladol.
Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried
wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol. Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu
bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol
safbwyntiau.
Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau