Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

STREET NAMING AND NUMBERING POLICY

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cytuno ar y Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd arfaethedig fel y'i nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y diwygiadau canlynol -

 

-       Bod paragraff 4.3, Adran C yn cael ei ail-eirio er mwyn egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw i eiddo â dim ond rhif arno ar hyn o bryd ond y byddai'n cyhoeddi canllawiau ynghylch priodoldeb enw’r eiddo er mwyn osgoi gwrthdaro ac yn achosi tramgwydd

-       dileu paragraff 1.9, Adran B yn ymwneud â'r defnydd o atalnodi

-       cynnwys "Court" a "View" ar y rhestr o ôl-ddodiaid derbyniol

-       bod paragraff 1.6, Adran B yn cael ei ddiwygio gyda'r geiriau ychwanegol "oni bai bod achos clir yn cael ei wneud ynghylch cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol yr unigolyn i'r tir neu’r gymdogaeth", a

 

(b)       nodi bod y swyddogaeth enwi strydoedd a rhifo yn cael ei reoli gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2014

Dyddiad y penderfyniad: 27/05/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/05/2014 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: