Manylion y penderfyniad
PROCUREMENT TRANSFORMATION UPDATE
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cyng. Julian
Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n rhoi’r diweddaraf
ar y mentrau caffael amrywiol sy’n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Trawsnewid
Caffael ehangach, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â thri
phrosiect Caffael fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
- bod y Cabinet yn:-
(a)
rhoi cymeradwyaeth
i Sir Ddinbych fod yn aelod swyddogol o Gonsortiwm Prynu Cymru am y 3 blynedd
nesaf tan 31 Mawrth 2016, gyda ffi gyfrannu flynyddol o £13,500
(b)
cymeradwyo
datblygu Achos Busnes ar gyfer creu gwasanaeth ar y cyd drwy gyfuno Unedau
Caffael Strategol Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint, a
(c)
cymeradwyo
datblygu achos busnes ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Tair Sir a fyddai i
ddechrau’n cynnwys Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Gwynedd
yn seiliedig ar Strwythur Rheoli Categori
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2013
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/09/2013 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: