Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

NORTH WALES OFFICE ACCOMMODATION REVIEW

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo symud o swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn (yn amodol ar ganfod defnydd arall i’r adeilad) fel y dewis a ffafrir (dewis 3, paragraffau 4.7-4.9) ar gyfer ad-drefnu swyddfeydd yng ngogledd y Sir.

 

(b)       yn cymeradwyo cynnal ymarfer marchnata ar gyfer adeilad Tŷ Nant, Prestatyn, ar sail les tymor canolig er mwyn hwyluso symud staff Cyngor Sir Ddinbych o’r adeilad, a

 

 (c)       yn cymeradwyo ffurfio Briff Cynllunio i hwyluso cynllun datblygu tymor hir ar gyfer safle Prestatyn (amlinellwyd mewn coch yn Atodiad 1) a datblygu briff dylunio ac astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer swyddfeydd newydd yn y Rhyl.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/08/2013

Dyddiad y penderfyniad: 30/07/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: