Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

MOVING FROM TOWN TO AREA PLANS

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth am y broses o ymestyn y Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig ledled Sir Ddinbych.

 

Eglurodd bod Cyngor Sir Ddinbych yn ystod 2011/12, wedi datblygu a chytuno ar Gynlluniau Trefol ar gyfer saith o brif drefi’r sir, heb gynnwys y Rhyl. Roedd ymarferiad wedi cael ei gynnal yn y Rhyl i ddatblygu Cynllun Darparu Y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd y Cynlluniau Trefol wedi caniatáu i anghenion a blaenoriaethau cymunedol gael eu nodi ar gyfer pob prif anheddiad. Fodd bynnag, hyd yma, nid oeddent wedi delio ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Ym mis Ionawr 2013, fe gytunodd y Cabinet i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac roedd yr adroddiad yn disgrifio sut byddai hynny’n digwydd. Roedd y Cynlluniau Tref ar gyfer Corwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, Rhuthun a Llanelwy wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet rhwng 2011 a Mawrth 2012.

 

Ym mis Ionawr 2013, fe gymeradwyodd y Cabinet ddyraniad cyllid cychwynnol ar gyfer prosiectau a nodwyd yn flaenoriaethau Blwyddyn 1 yn y Cynlluniau Trefol. Fe gytunodd y Cabinet ar yr un pryd i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach. Roedd Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol wedi ystyried y broses briodol i ymestyn y Cynlluniau Trefol presennol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac wedi delio â 3 phrif gwestiwn:-

 

i)                         Beth yw’r ‘ardal’ briodol ar gyfer Cynllun Ardal?

ii)                        Sut y dylid datblygu’r Cynlluniau Ardal?

iii)                       Sut olwg fydd ar y Cynlluniau Ardal?

Fe ystyriodd y Grŵp ddau opsiwn a oedd yn cynnwys Cynlluniau’n cwmpasu ardaloedd y Grŵp Aelodau Ardal (GAA), neu ardaloedd sy’n cynnwys y Trefi a’r cymunedau sydd â pherthynas draddodiadol neu naturiol â nhw. Oherwydd mai bwriad y Cynlluniau Ardal oedd cyflawni ymrwymiad y Cyngor i gynllunio’n seiliedig ar y gymuned a’i uchelgais i fod yn Nes at y Gymuned, daeth Aelodau’r Grŵp i’r casgliad mai’r ail opsiwn – Trefi a’u Cymunedau Cysylltiedig – oedd yr opsiwn dewisol. Roedd y grŵp yn credu bod Cynlluniau o’r fath yn haws i’w deall gan breswylwyr a byddai’r dull hwn yn unol ag arferion gorau mewn cynllunio a arweinir gan y gymuned a datblygiad economaidd trefi marchnad.

 

Roedd Atodiad 1 yn nodi’r cymunedau y byddai pob Cynllun yn ei gwmpasu, ac roedd y rhain wedi eu trafod a’u cadarnhau gan y GAA a chredwyd eu bod yn cynrychioli’r cysylltiadau naturiol a oedd yn ‘ffitio orau’ rhwng cymunedau a threfi. Daeth y Grŵp i’r casgliad y dylid cael cyfanswm o 9 o Gynlluniau, y 7 Cynllun Trefol presennol, Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen a Chynllun newydd ar gyfer Bodelwyddan, i’w datblygu pe bai’r Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo.

 

Roedd y Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol yn cydnabod fod yn rhaid i ymgynghori lleol da fod yn sail i’r Cynlluniau Ardal newydd os oedden nhw i fod yn wirioneddol seiliedig ar gymunedau ac yn adlewyrchol o anghenion a blaenoriaethau lleol. Er mwyn sicrhau cysondeb y dull gweithredu, roedd y Grŵp Cydlynu wedi cadarnhau fframwaith eang ar gyfer ymgynghori ac roedd hyn wedi ei gynnwys yn Atodiad 2. Yn unol â’r Siarter Cynghorau Tref a Chymuned, roedd y cynigion wedi eu dylunio i sicrhau bod Cynghorau Cymuned yn arwain yr ymgynghori a’r ymgysylltu ar lefel leol

 

Amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd rôl y Cefnogwyr ac roedd y Grŵp wedi argymell bod y Cefnogwyr Cynlluniau Trefol, gyda chefnogaeth eu Swyddogion Cymorth, yn llunio cynlluniau ymgynghori manwl ar gyfer cymunedau llai a mwy gwledig i’w hymgorffori yn eu Cynllun Ardal yn unol â’r fframwaith hwn a byddai angen i’r GAA gadarnhau’r trefniadau ymgynghori lleol. Byddai nifer fechan o Gynghorwyr â chymunedau o fewn eu wardiau wedi eu hymgorffori mewn Cynllun Ardal a fyddai tu allan i’w GAA a chan byddai gan y GAA rôl bwysig yn natblygiad y Cynlluniau Ardal newydd, roedd y Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol wedi ystyried y ffordd orau o ddelio â hyn ac roeddent wedi argymell y canlynol:

 

·                       Pencampwr y Cynlluniau Trefol i ymgynghori ag Aelodau Lleol ar y ffordd orau o ymgynghori â’u cymunedau unigol

·                       Gwahodd Aelodau Lleol ar ddechrau’r broses i nodi unrhyw faterion allweddol neu flaenoriaethau roedden  nhw’n ymwybodol ohonyn nhw o fewn eu cymunedau, i hysbysu’r ymgynghoriad lleol

·                       Gwahodd Aelodau Lleol i ddod i gyfarfodydd perthnasol y GAA pan fo’r Cynllun Ardal yn cael ei ystyried i’w gymeradwyo. Os na fuasent yn gallu bod yn bresennol, byddai’r Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid, gan weithredu yn ei rôl fel Pencampwr Gwledig, yn gofalu bod buddiannau pob cymuned wledig, yn cynnwys y rheiny sy’n dod dan ardal GAA yn arferol, yn cael eu hymgorffori’n ddigonol yn y Cynlluniau Ardal newydd.

Byddai’r Cynlluniau Ardal yn cael eu datblygu gan y Cefnogwyr Cynlluniau’n seiliedig ar ymgynghoriadau lleol a buasent yn cael eu hadolygu gan GAA. O’u cadarnhau gan y GAA, byddai’r Cynllun Ardal yn cael ei gyfeirio i’r Cabinet i’w gymeradwyo a gellid dyrannu cyllid ar gyfer y  blaenoriaethau cynnar yn y cam yma. Roedd yn debygol y byddai rhai Cynlluniau Ardal yn dod yn eu blaen yn gynt na’i gilydd yn dibynnu ar gymhlethdod ymgynghori lleol ac argymhellwyd dyddiad targed o Fedi 2013 ar gyfer cytuno’r Cynlluniau Ardal i gyd.

Byddai 3 ardal eang i’r Cynlluniau Ardal newydd - un yn nodi’r weledigaeth a’r blaenoriaethau ar gyfer pob tref, ail adran yn nodi sut y mae cymunedau llai a mwy gwledig yn cysylltu â’r Dref, a thrydydd yn mynegi unrhyw anghenion neu flaenoriaethau penodol ar gyfer y cymunedau llai a mwy gwledig. Byddai’r cynigion ymgynghori a amlinellwyd yn yr adroddiad ac a fynegwyd yn Atodiad 2 yn canolbwyntio ar ail a thrydedd adran y Cynlluniau.

 

Ni fwriadwyd ailymweld â’r adran Cynlluniau TrefoI na’r blaenoriaethau yn y cam yma, er y byddai cyfnodau cyfnerthu a chryfhau’r Cynlluniau yn y dyfodol yn caniatáu adolygu problemau a blaenoriaethau wrth i amgylchiadau newid. Roedd trywydd ar gyfer camau datblygu yn y dyfodol wedi ei awgrymu yn Atodiad 3.

 

Roedd amlinelliad o'r costau a sut buasent yn effeithio ar wasanaethau eraill a'r trefniadau ymgynghori ar gyfer datblygu Cynlluniau Ardal wedi eu nodi yn yr adroddiad. Roedd y risgiau a oedd yn gysylltiedig â gweithredu'r Cynlluniau Ardal ehangach wedi cael eu manylu a buasent yn cael eu trin trwy'r broses a amlinellwyd yn yr adroddiad, ac yn benodol y cynigion ymgynghori a nodwyd yn Atodiad 2.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr angen i sicrhau bod yr ardaloedd gwledig yn derbyn cyfran deg o'r cyllid oedd ar gael. Eglurodd byddai nifer o Gynghorau Tref a Chymuned yn penodi Cadeiryddion newydd ym mis Mai, 2013 a byddai'n bwysig sicrhau bod y llinellau cyfathrebu’n glir ac y cafwyd ymatebion i'r ymgynghoriad oddi wrth y bobl briodol. Pwysleisiodd y Cynghorydd E.W. Williams y pryderon a fynegwyd sef y gallai cymunedau gwledig golli allan gyda’r Cynghorau Tref yn cymryd rheolaeth o’r Cynlluniau. Eglurodd bod cymunedau yn hunangynhaliol i raddau, ond yn wynebu anawsterau o ran cael cyllid ar gyfer prosiectau yn eu hardaloedd eu hunain. Pwysleisiodd yr Arweinydd y pwysigrwydd o sicrhau bod cymunedau gwledig yn derbyn cefnogaeth i gael eu hawliau yn unol ag ardaloedd trefol y Sir. Cyfeiriodd y CC: UECh at dudalen 49 o Atodiad 3 a oedd yn amlygu camau 1 a 2 o'r gwaith i'w wneud a fyddai'n helpu mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Williams. Darparwyd amlinelliad o'r amserlenni a ragwelwyd ar gyfer y broses weithredu ar gyfer y Cynlluniau i’r Aelodau, a thrywydd ar gyfer camau datblygu yn y dyfodol wedi ei gynnwys yn Atodiad 3.

 

Rhoddwyd crynodeb o’r broses ymgynghori gan y CC: UECh a amlinellodd y gellid mabwysiadu'r gyfres o ddulliau a awgrymwyd gan y Tîm Cyfathrebu i ehangu ar y dulliau mwy traddodiadol o ymgynghori. Cytunodd yr Aelodau y dylai fod copi caled o'r broses ymgynghori ar gael i aelodau o'r cyhoedd pe baent yn gofyn am hynny. Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd P. Penlington, cyfeiriodd y CC: UECh at adrannau 4.11 a 4.12 yr adroddiad a oedd yn manylu ar y strwythur ac amlinellu tair adran eang o'r Cynlluniau Ardal newydd.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cadarnhaodd y Cynghorydd H. Ll. Jones y byddai'n barod i fynychu ac annerch yr holl gyfarfodydd Grŵp Aelodau Ardal.

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo'r broses ar gyfer ehangu Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach fel nodwyd yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys yn benodol y:-

 

·                     cymunedau a gwmpesir gan bob Cynllun, a nodir yn Atodiad 1

·                     trefniadau ymgynghori, a nodir yn Atodiad 2

·                     disgwyliad bod y Cynlluniau Ardal yn cael eu cwblhau erbyn Medi 2013

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/04/2013

Dyddiad y penderfyniad: 16/04/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/04/2013 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: