Manylion y penderfyniad
CHANGES TO BUS FUNDING ARRANGEMENTS
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth i’r trefniadau rheoli diwygiedig sy’n ofynnol i
gyflenwi’r cynllun newydd i ariannu bysiau drwy TAITH, y Consortiwm Cludiant
Rhanbarthol, ac i newid i Gyfansoddiad TAITH i ganiatáu cyflenwi’r cynllun
newydd.
PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-
(a)
yn
nodi’r trefniadau newydd ar gyfer ariannu bysiau i’w gweithredu o Ebrill 1af 2013 yn dilyn cymeradwyaeth i’r adroddiad ar
ariannu bysiau gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau.
(b)
yn
cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad TAITH a fynegir yn Atodiad 1
i’r adroddiad
(c)
yn
nodi y byddai gwaith pellach yn cael ei fwrw ymlaen i nodi’r trefniadau rheoli
newydd ar gyfer cyflenwi’r cynllun newydd yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol
a’r cyfnod trosiannol ar gyfer Grant Gwasanaethau Cludiant Rhanbarthol.
Dyddiad cyhoeddi: 22/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2013 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: