Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Perfformiad

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024.   Felly:

 

Penderfynwyd: cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Materion yn codi:

 

Tudalen 12, ‘Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun ar gyfer 2025/26 i 2027/28 ac Adolygu Gwytnwch a Chynaliadwyedd Ariannol y Cyngor - Incwm a Ragwelir o Ffioedd Parcio’: dywedodd y Cydlynydd Craffu fod Prif Swyddog Ariannol y Cyngor wedi dweud ei bod yn gynnar iawn yn y flwyddyn ariannol i ragweld incwm dros y flwyddyn gyfan gydag unrhyw sicrwydd. Ar gyfer misoedd cyntaf y flwyddyn ariannol, ymddengys bod yr incwm yn cymharu â’r blynyddoedd blaenorol, felly rhagwelir bod y Gwasanaeth ar y trywydd iawn i gyflawni'r incwm ychwanegol a ragwelir. Fodd bynnag, byddai ffactorau allanol megis y tywydd a’r niferoedd fyddai’n mynychu digwyddiadau mawr mewn trefi mawr yn effeithio ar yr incwm parcio. Dylai fod darlun cliriach ar gael erbyn diwedd yr hydref o’r incwm a ragwelir. Gofynnodd yr aelodau am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau incwm parcio a pherfformiad y Gwasanaeth i gyflawni ei ffigurau incwm a ragwelwyd cyn diwedd y flwyddyn galendr.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2024 - Pwyllgor Craffu Perfformiad

Dogfennau Cefnogol: