Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

MOULD & CONDENSATION IN HOUSING ASSOCIATION (RSL) HOUSING STOCK AND PRIVATE RENTED SECTOR PROPERTIES

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Partneriaethau

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad gefndir byr ar Lwydni ac Anwedd Mewn Eiddo yn y Sector Rhentu Preifat a Stoc Dai’r Gymdeithas Dai. Dechreuodd drwy egluro mai ymdrech tîm cyfan ydoedd, cydweithio agos rhwng llawer o wasanaethau.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar reoli llwydni ac anwedd mewn eiddo yr oedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen arnynt ac yn eu rheoli ac yn y sector rhentu preifat. Roedd yr adroddiad yn dilyn adroddiad diweddar am yr un mater yn stoc dai’r Cyngor.

 

Mae dwy brif agwedd i’r adroddiad fel a ganlyn:

1.    Rhoi diweddariad ar y sefyllfa yn y Sector Rhentu Preifat.

2.    Rhoi diweddariad ar y camau gweithredu positif a gymerwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ymdrin â’r sefyllfa gyfredol ac i ymateb iddi.

Eglurwyd bod y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn atebol i’w Byrddau eu hunain ac i Lywodraeth Cymru o ran rheoli safonau eu heiddo eu hunain. 

 

Arweiniodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd yr Aelodau drwy elfennau’r adroddiad oedd yn ymwneud â’r Sector Rhentu Preifat a’r gwaith oedd ar y gweill drwy Dîm Gwarchod y Cyhoedd a Swyddogion Gorfodi Tai y Cyngor. Roedd y ddeddfwriaeth gorfodi tai wedi’i nodi yn Neddf Tai 2004. Roedd unrhyw orfodi a gymerwyd yn digwydd dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Roedd y broses a nodwyd yn y canllawiau yn rhoi amser i landlordiaid weithredu cyn i unrhyw orfodi ddigwydd.

 

Roedd ffigurau o ran camau gorfodi dros y 4 mlynedd diwethaf (dosbarthwyd ymlaen llaw) wedi gostwng yn raddol ac roedd y Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni a Deddf Rhentu Cartrefi Cymru wedi cyfrannu at hynny o bosibl.

 

Yn unol â dechrau’r Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 yn gynharach yn 2023, mae’r tîm Gorfodaeth Tai wedi newid y broses archwilio cwynion i sicrhau bod y landlord yn cael gwybod am unrhyw gwynion a wneir gan eu tenantiaid, er mwyn rhoi’r cyfle iddynt fynd i’r afael â’r materion o ddiffyg atgyweirio, cyn i Dîm Gorfodaeth Tai’r Cyngor gael eu cynnwys yn ffurfiol. Os byddai’r broblem yn parhau ar ôl 21 diwrnod, neu os na fyddai cynnydd sylweddol wedi’i wneud, byddai’r tîm Gorfodaeth Tai yn trefnu cynnal archwiliad. Mae’r broses newydd yn berthnasol i bob cwyn a dderbynnir, heblaw am argyfyngau a gaiff eu blaenoriaethu a’u harchwilio cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.

 

Aeth y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd ymlaen i egluro mai ychydig iawn o gwynion a dderbyniwyd o ran Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Pe bai cwynion o’r fath yn cael eu derbyn, byddai’r tîm Gorfodaeth Tai yn cynghori’r tenant yn y lle cyntaf i gysylltu â’u darparwr tai fel bod cyfle gan eu landlord i fynd i’r afael â’u pryderon yn uniongyrchol.  Hyd yma, nid oedd unrhyw achosion gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lle’r oedd angen uwchgyfeirio neu gyfranogiad pellach. 

Eglurodd y Rheolwr Strategol Cynllunio a Thai ail agwedd yr adroddiad yn ymwneud â’r camau positif a gymerwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Roedd dau o’r chwe Landlord Cymdeithasol Cofrestredig lleol wedi rhoi copi o’u hymateb i Lywodraeth Cymru i’r Cyngor i sicrhau’r Pwyllgor eu bod wedi ymateb i’r mater fel landlordiaid cyfrifol.  Rhoddwyd crynodeb byr o’u hymateb fel a ganlyn: -

·       Caiff pob adroddiad am damprwydd, llwydni ac anwedd eu cofnodi a’u harchwilio, a bydd y llwyth achosion yn cael ei fonitro gan uwch. swyddog gydag adroddiadau i’r uwch dimau arwain a’r byrddau rheoli. 

·       Roedd prosesau clir ar waith i reoli pob adroddiad gan aelwydydd, er mwyn sicrhau bod camau gweithredu’n digwydd yn ddi-oed.

·       Roedd yr aelwydydd a’r eiddo sydd â’r mwyaf o risg wedi’u targedu ar gyfer ymyrraeth a chymorth. 

·       Roedd pob aelod o staff rheng flaen wedi cael hyfforddiant ac ymwybyddiaeth er mwyn gallu nodi a rhoi gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud â llwydni ac anwedd. 

·       Roedd partneriaethau wedi’u creu ar gyfer rhoi cyngor i aelwydydd ynghylch effeithlonrwydd ynni a chyllid aelwydydd. 

·       Cafwyd buddsoddiad ac arloesi sylweddol mewn cartrefi i wella mesurau effeithlonrwydd ynni. 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Holodd yr Aelodau faint o gefnogaeth oedd tenantiaid mewn cartrefi rhent preifat yn ei gael ac a oedd hyn yn debyg i denantiaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Eglurodd y Swyddogion, os oedd gan denant eiddo rhent preifat broblem, byddent yn cael gwybod i ddweud wrth eu landlord i ddechrau. Os na fyddai’r landlord yn cydymffurfio, dyna pryd y byddai’r tîm Gorfodaeth Tai yn ymyrryd i ymdrin â’r problemau a godwyd. Yn gyffredinol, rhoddwyd yr un amddiffyniad i denantiaid yn nhai y Cyngor, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Sector Rhentu Preifat dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).

 

Holodd yr Aelodau am y data yn yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) gan nodi cynnydd sylweddol yn nifer yr archwiliadau eiddo a gynhaliwyd ble’r oedd peryglon wedi eu nodi, a chamau gorfodi wedi eu cymryd o 2021/2022- 2022-2023. Dywedodd Swyddogion y gallai nifer o ffactorau fod wedi cyfrannu at hyn, sef dod allan o’r pandemig Covid a hefyd bod problemau gwahanol yn codi mewn tymhorau gwahanol yn y sector tai, er enghraifft, gallai fod wedi bod yn flwyddyn damp a gwlyb, a allai gyfrannu at dderbyn mwy o gwynion.

 

Holodd Aelodau sut fyddai troi tenantiaid allan heb fai yn effeithio ar y data a gasglwyd. Dywedodd swyddogion fod y tîm yn siarad yn rheolaidd â thenantiaid a landlordiaid i’w hannog i gael gafael ar wybodaeth a chymorth. Nod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) oedd mynd i’r afael â’r mater a helpu i atal digartrefedd. Nid oedd swyddogion yn gweld hyn yn broblem wrth symud ymlaen. Os byddai tenant yn cael ei droi allan heb fai, sy’n annhebygol, roedd llwybrau cyfreithiol i’w cymryd i gefnogi’r rhai a effeithiwyd.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at y pwyslais oedd yn cael ei roi ar inswleiddio cartrefi ac a oedd hyn yn ddefnyddiol wrth ymdrin â llwydni ac anwedd. Dywedodd y swyddogion fod pob eiddo’n wahanol, ond bod angen gwella perfformiad effeithlonrwydd ynni pob eiddo gan y byddai hyn yn ei gwneud yn rhatach i denantiaid eu cynhesu. Roedd rheoli lleithder ac awyru mewn eiddo hefyd yn bwysig i leihau llwydni ac anwedd a chael gwared arnynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu hadroddiad.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar yr arsylwadau uchod a’r sicrwydd a roddwyd

 

(i)             cadarnhau bod y Pwyllgor wedi darllen yr adroddiad ac wedi ei ddeall; a

(ii)           gofyn am i ddarganfyddiadau Llywodraeth Cymru yn dilyn ei adolygiad o ymatebion landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i ddigwyddiadau o lwydni ac anwedd yn eu stoc dai gael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.

 

Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau

Dogfennau Cefnogol: