Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Rhaglen Waith Archwilio

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Partneriaethau

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

 Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn cael ei gynnal ar 6 Gorffennaf 2023. Roedd 3 eitem sylweddol wedi eu rhestru ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 6 Gorffennaf 2023:

·       Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 

·       Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion

·       Ail bleidlais ar gyfer Ardal Gwelliannau Busnes Posibl y Rhyl - Ail Dymor (gohiriwyd o raglen fusnes y cyfarfod presennol â chaniatâd y Cadeirydd)

Yng nghyfarfod mis Ebrill y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, gofynnwyd am i adroddiad ar Osod Lefelau Rhent Fforddiadwy ddod gerbron y Pwyllgor Craffu Partneriaethau. Gofynnwyd hefyd am i gynrychiolydd o’r Sector Landlordiaid Preifat gael gwahoddiad i’r cyfarfod. Roedd y Cydlynydd Craffu wedi siarad â’r Rheolwr Strategol Cynllunio a Thai ac roeddent yn gobeithio gallu cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod mis Hydref y Pwyllgor.

 

Atgoffwyd yr Aelodau am y Grwpiau Herio Gwasanaethau (dosbarthwyd gwybodaeth ymlaen llaw) ac oherwydd bod gwasanaethau wedi cael eu hailstrwythuro, roedd 3 grŵp arall oedd angen cynrychiolwyr o’r Pwyllgor sef:-

·       Tai a Chymunedau

·       Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau

·       Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl

 

Enwebodd y Cynghorydd Martyn Hogg ei hun fel cynrychiolydd y Grŵp Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol  ac Asedau ac roedd Aelodau o blaid hynny.

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer y Grwpiau Herio Gwasanaethau Tai a Chymunedau a Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl a chytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn chwilio am gynrychiolwyr ar gyfer y grwpiau hyn yn ei gyfarfod nesaf.

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd:

 

(i)             yn amodol ar y newidiadau a’r cynnwys posibl a amlinellir uchod ac yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1; a

(ii)           phenodi’r Cynghorydd Martyn Hogg fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:  Perfformiad, Digidol ac Asedau a gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer cynrychiolwyr y Pwyllgor ar Grwpiau Herio Gwasanaethau Tai a Chymunedau a’r Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.   

 

Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau

Dogfennau Cefnogol: