Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

NORTH DENBIGHSHIRE COMMUNITY HOSPITAL PROJECT

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Partneriaethau

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych i'r Pwyllgor. Bwriad y Prosiect oedd datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra (RAH) yn y Rhyl.

 

Mynegodd yr Aelod Arweiniol bwysigrwydd y prosiect oherwydd y pwysau presennol sy'n wynebu Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y Prosiect yn ddatblygiad hanfodol i Sir Ddinbych ac yn brif flaenoriaeth. Roedd Arweinwyr Prosiect yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth agos a pharhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Diolchodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig i’r Pwyllgor am gael ei wahodd i’r cyfarfod ac aeth ymlaen i roi cyflwyniad a oedd yn cynnwys y manylion canlynol: -

 

·       Roedd y Prosiect Cyfalaf yn gymhleth o ran darpariaeth.

·       Roedd cyfleoedd i'r safle gynnwys gwasanaethau ychwanegol megis Uned Mân Anafiadau drwy'r broses Achos Busnes.

·       Cymeradwywyd Achos Busnes Llawn ar gyfer BIPBC ym mis Mawrth 2021.

·       Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021 fod y prosiect yn gadarn ac yn gymeradwy, a bod bellach angen nodi cyllid.

·       Cymeradwyodd BIPBC Strategaeth Ystadau ym mis Ionawr 2023 gan osod y prosiect RAH o fewn y 6 uchaf, gydag Achos Busnes Llawn wedi’i gwblhau.

·       Ym mis Ionawr 2023, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Bwrdd Iechyd gadarnhau bod yr RAH yn flaenoriaeth a gofynnwyd am gymorth mewn egwyddor gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Roedd y Bwrdd Iechyd yn llunio ymateb.

·       Unwaith y byddai cymeradwyaeth lawn ar gyfer cyllid wedi'i rhoi, byddai'r prosiect yn cymryd 3 mis i'w roi ar waith a 31 mis i'r cam adeiladu gael ei gwblhau.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr IHC fod yna broses fanwl yr oedd angen ei dilyn o fewn y Bwrdd Iechyd ar gyfer pob datblygiad. Er bod hon wedi bod yn broses hirfaith, roedd wedi rhoi’r cyfle i’r Bwrdd Iechyd sicrhau ei bod yn gywir, gan gynnwys nifer o wasanaethau ychwanegol o bwys i’w cynnig ar safle RAH.

 

Eglurwyd y broses gymeradwyo i’r Pwyllgor fel yr amlinellir isod:-

 

·       Achos Amlinellol Strategol

·       Achos Busnes Amlinellol

·       Achos Busnes Llawn - Yna gellid cytuno ar gyllid.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr IHC i'r Cyngor am eu partneriaeth agos wrth helpu i gyflawni'r prosiect a chroesawodd gwestiynau gan yr aelodau.

 

Arweiniodd trafodaeth rhwng Aelodau at gwestiynau ynghylch yr amser yr oedd wedi'i gymryd i gyrraedd y cam hwn o'r Prosiect, a pha mor hir y byddai'n ei gymryd i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn anffodus, dywedodd y Cyfarwyddwr IHC nad oedd ganddi'r wybodaeth honno. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai llinell gyfathrebu barhaus wrth symud ymlaen.

 

Mynegodd y Cynghorydd Martyn Hogg rai pryderon ynghylch deall y broses gymeradwyo a'r camau sydd ynghlwm wrth bob cam. Gofynnodd a oedd siart llif y gellid ei rhoi i ddangos hyn ac i gefnogi dealltwriaeth yr aelodau o’r broses. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr IHC y byddai siart llif yn nodi camau'r broses gymeradwyo fel y nodir uchod. Parhaodd i egluro bod llwybr cylchol ar gyfer pob un o'r camau a amlinellwyd a oedd yn caniatáu i gwestiynau gael eu gofyn. Cam presennol y prosiect oedd bod cwestiynau wedi'u gofyn gan Lywodraeth Cymru a bod angen ymateb iddynt, byddai hyn wedyn yn rhan o'r broses o gwblhau'r Achos Busnes a fyddai'n arwain at gytuno ar gyllid. Dros yr wythnosau nesaf roedd y Cyfarwyddwr IHC yn obeithiol y byddent wedi ymateb i Lywodraeth Cymru, ac y byddai hyn wedyn yn hwyluso'r penderfyniad terfynol.

 

Holwyd sut olwg fyddai ar Ysbyty Brenhinol Alexandra unwaith y byddai'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau a pha wasanaethau y cytunwyd y byddai’n gweithredu o'r safle. Dywedodd Cyd-bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fod Achos Busnes Llawn wedi'i rannu'n flaenorol. Roedd hwn yn nodi'r Gwasanaethau a fyddai'n cael eu darparu, gan gynnwys darluniau o'r ysbyty ar ôl ei gwblhau, ond byddai'n sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu eto gydag Aelodau'r Pwyllgor.

 

Holodd yr aelodau a oedd cyfle i graffu ar Lywodraeth Cymru dros eu proses gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, sut y gallai'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd sicrhau bod y prosiect yn symud ymlaen i’r camau nesaf yn barhaus. Eglurodd y Cyfarwyddwr IHC eu bod wedi bod trwy broses gyda'r Strategaeth Ystadau, a thybiwyd bod hyn yn galluogi sgyrsiau parhaus gyda'r Llywodraeth a'r Bwrdd Iechyd.

 

Gwnaed sylwadau terfynol gan yr Aelodau ynghylch faint o amser yr oedd wedi'i gymryd i'r prosiect gyrraedd y cam presennol. Caewyd llawer o ysbytai cymunedol lleol yn Sir Ddinbych flynyddoedd yn ôl ar yr addewid y byddai'r cyfleuster hwn yn cael ei ddisodli.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu diweddariad a chroesawodd ddiweddariad pellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a fyddai'n cael ei gynnal ym mis Medi 2023.

 

 

          Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod a darparu’r wybodaeth ychwanegol -

 

(i)             derbyn y wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o gyflwyniad Diweddariad Prosiect Datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra; a

(ii)           gofyn am adroddiad cynnydd pellach ar bob agwedd ar ddatblygiad y Prosiect i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023.

 

Ar y pwynt hwn, gan fod y Pwyllgor ar y blaen, cytunodd y Pwyllgor â chynnig y Cadeirydd i amrywio trefn y busnes a dod ag eitem Rhaglen Waith Craffu ymlaen.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 27/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 09/02/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau