Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

CHRIST THE WORD INSPECTION REPORT

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Perfformiad

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg, Geraint Davies, yr adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn amlinellu’r ymateb i Adroddiad Arolwg Estyn yn ddiweddar a arweiniodd at roi Ysgol Gatholig Crist y Gair dan Fesurau Arbennig.  

 

Yn ystod ei gyflwyniad, darparodd y Pennaeth Addysg rywfaint o gyd-destun i arolwg Estyn, a oedd yn cynnwys gwybodaeth gefndir am sefydlu’r ysgol, effaith Covid ar yr holl ddisgyblion a sefydliadau addysg gan gynnwys Ysgol Crist y Gair, a manylion y pum argymhelliad a wnaed gan Estyn, a oedd wedi’u nodi yn Adroddiad yr Arolwg sydd ar gael ar wefan Estyn.  

 

Yn ogystal â hyn, nododd yr holl gamau a gymerwyd gan Wasanaeth Addysg y Cyngor, Corff Llywodraethu’r Ysgol, yr Esgobaeth a GwE hyd yma gyda’r nod o fynd i’r afael ag argymhellion Estyn, a oedd yn cynnwys datblygu Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg (CGOA) a Chynllun Cefnogaeth ar y cyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol a GwE ar gyfer yr ysgol.   Roedd y mesurau hyn yn cynnwys penodi llywodraethwyr ychwanegol ar Gorff Llywodraethu’r Ysgol, penodi tîm arweinyddiaeth dros dro ar gyfer yr ysgol a darparu cefnogaeth ychwanegol i gynorthwyo i symud yr ysgol yn ei blaen.   Mae’r holl gamau hyn a’r mesurau a amlinellwyd yn y CGOA wedi’u derbyn gan Estyn ac mae darpariaeth y CGOA a chynlluniau gweithredu’r Awdurdod Addysg Lleol / GwE yn awr yn destun her a monitro rheolaidd.  

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor bu i Aelod Arweiniol Addysg, Teuluoedd a Phlant, y Pennaeth Addysg, Swyddogion Addysg yr Awdurdod Addysg Lleol, cynrychiolwyr Ysgol Crist y Gair a’r Esgobaeth, ynghyd â chynrychiolwyr GwE:

 

·      amlinellu trefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.  

·      darparu trosolwg o broses Arolwg Estyn, gan gynnwys y gwaith a wneir cyn Arolwg

·      amlinellu’r mathau o gefnogaeth a gynigiwyd i’r ysgol ers ei sefydlu

·      cadarnhau bod diogelu yn nodwedd allweddol ym mhob un o  arolygon Estyn.   Bod y mesurau sydd yn awr yn eu lle mewn ymateb i argymhelliad y rheoleiddiwr yn cael eu herio a’u monitro’n barhaus i sicrhau eu cadernid.   Hefyd, mae llywodraethwr ychwanegol wedi’u penodi i Gorff Llywodraethu’r Ysgol ac roedd y llywodraethwr wedi derbyn cyfrifoldeb am ddiogelu ar y Corff Llywodraethu.

·      cynghori’r cynhelir sawl digwyddiad hyfforddi ar gyfer arweinwyr ysgolion, staff a llywodraethwyr i sicrhau fod ganddynt y sgiliau perthnasol i fynd i’r afael â’r argymhellion a darparu’r cynlluniau gweithredu

·      cadarnhau bod y CGOA a Chynllun Cefnogi’r Awdurdod Addysg Lleol / GwE yn plethu â’r Cwricwlwm i Gymru, Rhaglen Cyfarwyddyd Crefyddol a Chod Perthnasoedd ac Addysg Rhyw a byddai’n sicrhau eu darpariaeth ar draws yr ysgol yn y dyfodol 

·      darparu sicrwydd bod yr holl bartneriaid sy’n ymwneud â’r ysgol yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd gyda nod gyffredin o gefnogi’r ysgol yn y dyfodol a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n mynychu’r ysgol. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth gynhwysfawr a thrylwyr, diolchodd y Pwyllgor i bawb am eu presenoldeb ac am gyfrannu’n adeiladol at y drafodaeth:

 

Penderfynwyd::

 

(i)           derbyn y wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth;

(ii)   cefnogi ymdrechion yr holl bartïon hyd yma i fynd i’r afael â’r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Arolwg Estyn ar gyfer Ysgol Crist y Gair; a

(iii)  gofyn bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi 2023 yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o ran gweithredu a darparu’r Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg (CGOA) a Chynllun Cefnogaeth ar y cyd yr Awdurdod Lleol a GwE yn dilyn arolwg Estyn o’r ysgol yn 2022.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 26/01/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/01/2023 - Pwyllgor Craffu Perfformiad

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •