Manylion y penderfyniad
FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Partneriaethau
Statws Penderfyniad : For Determination
Penderfyniadau:
Mynychodd y Cynghorydd Bobby Feeley gyfarfod cyntaf Bwrdd
Prosiect Bwthyn y Ddôl, prif fenter canolfan asesu plant mewn partneriaeth â
Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr.
Yn anffodus, roedd y prosiect yn cael ei gynnal o lety
dros dro ym Mae Colwyn oherwydd bod y contractwr a benodwyd yn wreiddiol wedi
mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Yn dilyn trafodaeth faith, cafodd contractwr dibynadwy
ei nodi, rhagwelwyd y byddent yn cael eu penodi, wrth aros am gasgliad
gwerthusiad llwyddiannus, ddiwedd yr wythnos ac y byddai’r gwaith adeiladu’n
cychwyn yn y flwyddyn newydd.
Penderfynodd y Pwyllgor:
dderbyn yr adroddiad ar lafar a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Bobby Feeley ynghylch y trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod
diweddar Bwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm
Dyddiad cyhoeddi: 30/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/12/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Craffu Partneriaethau