Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Rhaglen Waith Archwilio

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau

Statws Penderfyniad : For Determination

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r materion canlynol:-

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai'r adroddiadau ar Gam-drin Cŵn a'r Model Gwastraff ac Ailgylchu Newydd ar gael i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref 2022. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad ar Ail Gartrefi a Gosodiadau Gwyliau Tymor Byr yn dibynnu ar ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai’n cael ei aildrefnu ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar ôl ystyried nifer o geisiadau craffu yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2022 wedi cyfeirio dau bwnc i'r Pwyllgor eu harchwilio'n fanwl. Roedd y rhain yn ymwneud ag amseroedd ymateb Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i alwadau brys, ac effaith cyflwyno’r terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr ar ffyrdd y sir ar yr Awdurdod ac ar drigolion. Roedd y ddwy eitem wedi’u hamserlennu ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022.

 

Ar ôl ystyried yr uchod: 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 am.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2022

Dyddiad y penderfyniad: 08/09/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/09/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau

Dogfennau Cefnogol: