Manylion y penderfyniad
ADRODDIAD CYLLID
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;
(b) cymeradwyo
trosglwyddo £1m o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r
Gyllideb er mwyn hwyluso cyflawniad y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)
sydd angen £1m o gyfraniad arian parod ychwanegol ar gyfer 2018/19 er mwyn
lliniaru a lleddfu effeithiau’r gostyngiadau a ragwelir mewn cyllid dros nifer
o flynyddoedd, ac
(c) wedi ystyried
argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol o ran prosiect Ysgolion yr 21ain
ganrif Ysgol Llanfair, bod y Cabinet yn –
·
cefnogi cyflwyno Achos Busnes
ar gyfer adeilad ysgol newydd i Ysgol Llanfair (Atodiad 5) ger bron Llywodraeth
Cymru
·
cymeradwyo’n ffurfiol y
gyllideb gyffredinol o £5.369m fel y manylir yn yr achos busnes
·
cefnogi mewn egwyddor pryniant
arfaethedig y tir yn Llanfair i hwyluso datblygiad yr ysgol newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 26/01/2017
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: