Manylion y penderfyniad
IN HOUSE CARE SERVICES UPDATE
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y
Cabinet yn gofyn i Swyddogion gynnal –
(a) proses dendro ffurfiol mewn cysylltiad â
darpariaeth gwasanaethau yn Hafan Deg (Y Rhyl) gyda’r bwriad o drosglwyddo’r
adeilad i sefydliad allanol, gan gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn yr adeilad
ac, yn ogystal, galluogi asiantaethau 3ydd sector i ddarparu gweithgareddau
ymyrraeth fuan i bobl hŷn sy’n lleihau ynysu cymdeithasol, cefnogi
annibyniaeth a hybu gwydnwch;
(b) proses dendro ffurfiol mewn perthynas â darparu gwasanaethau yn Nolwen
(Dinbych) gyda sefydliad allanol gyda'r bwriad o drosglwyddo'r adeilad a'r
gwasanaeth cyfan i sefydliad allanol a fydd yn cofrestru Dolwen i ddarparu
gofal dydd a phreswyl iechyd meddwl yr henoed (IMH);
(c) bod yr holl ddogfennau tendro yn pennu gofynion i ddangos tystiolaeth ar
ansawdd y gofal a'r ddarpariaeth Gymraeg fyddai'n cael eu darparu yn y ddau
sefydliad, ac
(d) ar ddiwedd y broses dendro bod y bidiau yn cael eu gwerthuso a'u dadansoddi
ar gyfer effeithiau posibl gan y Grŵp Tasg a Gorffen cyn cael eu cyflwyno
i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad a’r Cabinet gydag argymhellion y Darparwr a
ffafrir, cyn eu penodi, er mwyn cael cymeradwyaeth lawn y Cabinet ac i
sicrhau'r canlyniad mwyaf manteisiol. (Byddai unrhyw
benodiad yn amodol ar y Cabinet yn cael ei fodloni y byddai trosglwyddo asedau
a’r ddarpariaeth gwasanaethau a gynlluniwyd yn y sefydliadau hynny er budd
gorau'r defnyddwyr gwasanaeth, trigolion a'r Cyngor).
Dyddiad cyhoeddi: 26/10/2016
Dyddiad y penderfyniad: 25/10/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/10/2016 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: